Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n ymweld â phrosiect codi'r gwastad gwerth £13m yng ngogledd Cymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi ymweld â safleoedd yng ngogledd ddwyrain Cymru sy’n derbyn dros £13m o gyllid gan Lywodraeth y DU i hybu twristiaeth a gwella cyfleusterau i ymwelwyr.

Ymunodd Ysgrifennydd Cymru â Simon Baynes AS De Clwyd a Chyngor Wrecsam ddydd Gwener (3 Rhagfyr) i weld sut bydd yr arian, a ddyrannwyd fel rhan o Gronfa Codi’r Gwastad newydd Llywodraeth y DU, yn trawsnewid cysylltedd, mannau cyhoeddus a gwasanaethau yn yr ardal.

Rhoddwyd cyfanswm o £13.3m i’r prosiect yng Nghyllideb yr Hydref – rhan o’r rownd gyntaf o geisiadau llwyddiannus am y Gronfa Codi’r Gwastad gwerth £4.8bn sy’n buddsoddi mewn seilwaith sy’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

Mae tri cham i brosiect gogledd ddwyrain Cymru:

  • Uwchgynllun Technegol Basn Trefor a fydd yn gweld buddsoddiad mewn ardal groesawu newydd, ailwampio hen dir diwydiannol, sefydlu ardal addysg a gweithgarwch coetir, a chreu llwybr cerdded newydd i Ddyffryn Dyfrdwy yng nghyffiniau safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte.

  • Gwelliannau cysylltedd yn yr ardal gan gynnwys man cyhoeddus newydd ar gyffordd Stryd y Castell a Ffordd yr Abaty yn Llangollen, gan wella’r cysylltiadau rhwng Llangollen a Gwarchodfa Natur Gwenffrwd drwy lwybr cerdded / beicio ar hyd hen reilffordd a chyfleusterau newydd i ymwelwyr yn Llantysilio / Rhaeadr y Bedol.

  • Gwelliannau i Orsaf Corwen a’r maes parcio gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan a chreu llwybr cerdded / beicio ar hyd yr hen reilffordd rhwng Corwen a Chynwyd.

Ddydd Gwener, ymwelodd Mr Hart, Mr Baynes ac aelodau o Gyngor Wrecsam â Basn Trefor, Traphont Ddŵr Pontcysyllte ac Afon Dyfrdwy i ddysgu sut y byddai’r buddsoddiad codi’r gwastad o fudd i’r ardal.

Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio’n llwyr ar godi’r gwastad yn ein cymunedau, gwella cysylltedd a seilwaith a chreu cyfleoedd i bobl ledled Cymru.

Gwych oedd gweld y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy a’r ardal gyfagos a dysgu sut bydd y buddsoddiad mawr rydyn ni’n ei ddarparu yn datgloi potensial ein holl ardaloedd lleol.

Ein nod yw darparu buddsoddiad lle mae ei angen a lle gall wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Dywedodd Simon Baynes AS De Clwyd:

Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Gwladol Cymry am gymryd yr amser i ymuno â ni ym Masn Trefor i drafod y cynlluniau uchelgeisiol sydd ar y gweill i godi’r gwastad yn Ne Clwyd a’n cymunedau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gyda’r prif gynllun Basn Trefor, y buddsoddiad yn Llangollen a’r Waun, a’r cynigion ar gyfer ardal Corwen.

Mae gan y prosiectau potensial enfawr i fod o fudd i drigolion De Clwyd a’r ymwelwyr. Byddant nid yn unig yn darparu swyddi ac yn hwb economaidd i Dde Clwyd ond hefyd yn gwella lles ein trigolion drwy ehangu mynediad i weithgareddau hamdden, awyr agored ac amwynder eraill. A bydd yn dathlu hanes, iaith a diwylliant anhygoel ein rhan ni o Gymru ac yn dod â nhw i gynulleidfa ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth y DU am gais llwyddiannus gan y Gronfa Codi’r Gwastad a chefnogaeth yr AS lleol, Simon Baynes. Bydd y cyllid yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i Ddyffryn Dyfrdwy o Gorwen i Langollen, i Fasn Trefor a’r Waun.

Mae gwella ein Safle Treftadaeth y Byd unigryw yn hollbwysig i Wrecsam, Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd, Cymru a’r Deyrnas Unedig. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith o lunio’r cais llwyddiannus hwn ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd a wneir yn yr ardal.

Roedd prosiect Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru yn un o 10 cais llwyddiannus yn y rownd gyntaf o geisiadau ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad newydd, gan gynnwys adfywio glan y môr Aberystwyth, deuoli’r A4119 yn Ne Cymru ac ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.

Cyhoeddwyd hefyd fis diwethaf y bydd dros 160 o brosiectau ledled Cymru hefyd yn derbyn cyfran o dros £46m yn rownd gyntaf y Gronfa Adfywio Cymunedol a fydd yn treialu rhaglenni newydd sy’n buddsoddi mewn pobl, yn rhoi hwb i sgiliau ac yn cefnogi busnesau lleol.  

A derbyniodd tri phrosiect arall yng Nghymru dros £460,000 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol newydd a gynlluniwyd i warchod asedau cymunedol gwerthfawr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am bob un o’r tair cronfa – y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol a Chronfa Codi’r Gwastad, gan gynnwys y rhestrau llawn o fidiau llwyddiannus.

Mae’r fethodoleg gyhoeddedig a ddefnyddiwyd i ganfod llefydd sydd angen cyllid ar gael hefyd.

Cyhoeddwyd ar 9 December 2021