Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn dweud y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi hwb o 25% i Apêl y Glowyr

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth y DU yn talu’r hyn sy’n cyfateb i Gymorth Rhodd ar yr holl roddion i…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth y DU yn talu’r hyn sy’n cyfateb i Gymorth Rhodd ar yr holl roddion i Apel y Glowyr.  

Dywedodd: “Mae’r drasiedi hon wedi cyffwrdd pawb ac mae’r ymateb i’r apel hon wedi bod yn ddidwyll. Pan oeddwn yn y ganolfan gymunedol gyda’r teuluoedd gwelais, o’r cychwyn cyntaf, gymunedau yn rhoi amser, bwyd a chymorth i’r teuluoedd ac i’r gweithwyr achub. Ers y digwyddiadau erchyll yr wythnos diwethaf mae pobl wedi rhoi’n hael i’r Gronfa Apel a gobeithiaf y byddant yn parhau i wneud hynny.

“Mae’r teuluoedd wedi colli dynion gweithio ac mae’r rheini sydd wedi goroesi wedi colli eu bywoliaeth. Felly rwyf yn falch o allu cyhoeddi y bydd Llywodraeth y DU yn talu’r hyn sy’n cyfateb i Gymorth Rhodd sef 25% ar ben yr holl roddion a gafwyd ers dechrau’r gronfa. Bydd hyn yn gwneud cryn wahaniaeth i’r apel ac mae’n dangos fy ymrwymiad i ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r gronfa a’r rheini y bydd yn eu cefnogi.”

Cyhoeddwyd ar 19 September 2011