Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn dathlu dewrder a chyfraniad y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Bydd Alun Cairns yn traddodi’r brif araith ac yn cyflwyno Gwobr y Lluoedd Arfog mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Bydd gwaith caled ac ymroddiad y dynion a’r menywod yng Nghymru sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n eu cefnogi’n cael ei gydnabod yng Ngwobrau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru heddiw (Tachwedd 30).

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn traddodi’r brif araith ac yn cyflwyno prif wobr y noson yn y digwyddiad pwysig hwn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bellach yn eu pumed blwyddyn, mae’r gwobrau’n anrhydeddu cyflawniadau a phroffesiynoldeb dynion a menywod y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chyflogwyr ac unigolion sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi personél y Lluoedd Arfog.

Y gwobrau yw:

  • Chwaraeon
  • Ieuenctid a Chadetiaid
  • Cyfamod y Lluoedd Arfog
  • Gwobr y Lluoedd Arfog

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi amddiffyn wrth galon ei gweledigaeth ar gyfer Prydain Fyd-eang. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd degfed Diwrnod y Lluoedd Arfog, yn 2018, yn cael ei gynnal yn Llandudno a’r cyffiniau, ym mwrdeistref Conwy, Gogledd Cymru. A chyda 2,000 o filwyr a dros 1,000 o sifiliaid sy’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi’u lleoli yma, mae Cymru’n ganolog i Amddiffyn y DU.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

O feysydd y gad yn Fflandrys i anialdiroedd Afghanistan, mae aelodau o Gymru wedi gwasanaethu’r lluoedd arfog gyda dewrder ac ymroddiad ers can mlynedd a mwy.

Mae Gwobrau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru’n gyfle i ni i ddangos ein gwerthfawrogiad a’n balchder yn ein milwyr, llongwyr a phersonél awyr sy’n aberthu cymaint dros eraill.

Mae ein diolchgarwch yn ymestyn hefyd i’r teuluoedd a’r ffrindiau maent yn eu gadael ar ôl ond sydd hefyd yn cyfrannu cymaint. Mae’n fraint i mi gael y cyfle i ddathlu eu cyfraniad amhrisiadwy wrth iddynt amddiffyn ein cenedl ac mae’n anrhydedd cael bod yma yn eu cwmni heno.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i gefnogi’r Lluoedd Arfog.

Mae Gwobr y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) yn cydnabod cyflogwyr sy’n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn ymarferol yn eu gweithleoedd ac sydd hefyd yn annog eraill i ddilyn yr un trywydd.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae’r cwmnïau sydd wedi’u henwebu heno wedi dangos ymroddiad neilltuol i gefnogi aelodau’r Lluoedd Arfog, cyn aelodau’r Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd.

Maent wedi cymryd camau ymarferol i sicrhau nad yw’r gymuned Amddiffyn o dan anfantais o ganlyniad i’w haberth i helpu i wneud ein gwlad yn ddiogel. Mae gweithredoedd y cyflogwyr hyn yn dangos yn glir i ni fod cyflogi pobl â sgiliau milwrol yn dda i fusnes, beth bynnag fo’u maint, eu lleoliad neu eu sector.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 30 November 2017