Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n ymateb i gyhoeddiad Tata Steel

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymateb i gyhoeddiad gan Tata Steel, yn nodi efallai y byddant yn oedi cyn ailgynnau ffwrnais…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymateb i gyhoeddiad gan Tata Steel, yn nodi efallai y byddant yn oedi cyn ailgynnau ffwrnais chwyth 4 ym Mhort Talbot, sydd ar fin cael ei hadnewyddu.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’n ddealladwy efallai y bydd yn rhaid i Tata benderfynu oedi cyn ailgynnau ffwrnais chwyth pedwar ym Mhort Talbot yng ngoleuni’r hinsawdd fusnes bresennol. Mae TATA yn gweithredu mewn marchnad hynod heriol - yn y wlad hon ac yn rhyngwladol, ond rwyf wedi cael sicrwydd bod Tata wedi ymrwymo’n llwyr i’w fuddsoddiad yn y DU. Penderfyniad masnachol fydd hwn, ac rwy’n deall na chollir unrhyw swyddi o ganlyniad i hynny.”

Cyhoeddwyd ar 26 June 2012