Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n ymateb i cyhoeddiad diogelu cyllid S4C.
Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi nodi bod diogelu cyllid S4C yn arwydd sylweddol bod Llywodraeth y DU yn cefnogi’r darlledwr Cymraeg yn gadarn.
Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r cyhoeddiad heddiw’n atgyfnerthu ymrwymiad y Llywodraeth i wasanaeth teledu Cymraeg cryf ac annibynnol.
Yn ddi-os, mae S4C wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r diwydiant creadigol yng Nghymru, ac yn allweddol iawn, i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Yn wir, dyma’r unig sianel Gymraeg yn y byd.
Rwy’n falch iawn bod y Canghellor wedi cydnabod pa mor bwysig yw S4C i bobl Cymru, a’i fod wedi gallu sicrhau’r cyllid ar gyfer 2015/16.
Rwy’n hyderus bod dyfodol disglair i S4C, a bod gan y sianel y sefydlogrwydd a’r sicrwydd sy’n angenrheidiol i fynd o nerth i nerth.