Ysgrifennydd Cymru’n ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur
Mae’r ffigurau cyflogaeth diwethaf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (14 Awst) yn dangos bod Cymru ar y llwybr cywir tuag at adferiad economaidd, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.
Dengys y ffigurau bod cyflogaeth yng Nghymru’n parhau i gynyddu, gyda 5,000 yn rhagor o bobl yn dod o hyd i gyflogaeth dros y chwarter diwethaf. Erbyn hyn, mae 21,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru nag ar yr un adeg y llynedd. Ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, mae mwy o bobl mewn cyflogaeth nag erioed o’r blaen.
Er gweld cynnydd bychan mewn diweithdra yng Nghymru dros y chwarter diwethaf, mae’r ffigur cyffredinol 4,000 yn is dros y flwyddyn. Ar ben hynny, mae nifer y bobl sy’n ceisio lwfans ceisio gwaith yng Nghymru wedi syrthio am y trydydd mis yn olynol, gyda 1,800 yn llai yn ei hawlio ym mis Gorffennaf.
Dywed Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:
Mae mis arall o ystadegau cyflogaeth mwy calonogol yn dangos bod y Llywodraeth hon yn creu’r amodau cywir ar gyfer twf, a bod economi Cymru yn gwneud cynnydd cyson o gael ei achub i gael ei adfer.
Mae’r neges yn glir – bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi’r rheiny sydd eisiau gweithio, wrth i ni barhau i greu’r amodau a fydd yn cefnogi twf economaidd hirdymor ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 August 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.