Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur
Heddiw [15 Awst 2012], croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newyddion fod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi codi ychydig…
Heddiw [15 Awst 2012], croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newyddion fod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi codi ychydig, a bod lefelau diweithdra wedi gostwng yn ystod pump o’r chwe mis diwethaf.
Mae’r ystadegau a gafwyd gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol heddiw hefyd yn dangos bod y lefelau diweithdra tymor byr ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi gostwng, a cheir arwyddion bod y lefelau diweithdra cyffredinol ymhlith pobl ifanc yn sefydlogi.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Rwyf yn croesawu’r newyddion heddiw am y gostyngiad mewn lefelau diweithdra yn gyffredinol yng Nghymru, ac am y cynnydd yn nifer y bobl sydd mewn gwaith.”
“Y cynnydd hwn mewn cyflogaeth yw’r pedwerydd uchaf, ar ol Llundain, Gogledd Orllewin Lloegr a De Orllewin Lloegr, ac mae’n uwch na’r cynnydd cyffredinol yng nghyfradd y DU. Ceir hefyd arwyddion calonogol bod y lefelau diweithdra ymhlith pobl ifanc yn sefydlogi. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio i wella cyfleoedd i bobl ifanc yn ystod y misoedd nesaf.”
“Mae’n rhaid i ni wneud mwy i droi hyn yn duedd fwy positif fel bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at y cyfleoedd gwaith y mae eu hangen arnynt.”
“Mae’r penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU wedi’u gwneud yn ddiweddar i wella seilwaith, o ran trydanu rheilffyrdd a band eang er enghraifft, yn helpu i ddangos bod Cymru yn barod am fusnes ac yn lle delfrydol i fuddsoddi.”
“Mae’r amodau economaidd byd-eang yn dal yn anodd. Maent yn pwysleisio pwysigrwydd ein ffocws parhaus a diflino ar yr economi, yn cefnogi busnesau ac yn eu helpu i fuddsoddi a chreu swyddi.”
Diwedd
Nodyn i Olygyddion:
- 68.6% oedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru, 0.5% o gynnydd ers y chwarter diwethaf
- Roedd y lefelau **cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu** 5,000 ers y chwarter diwethaf i 1.345m, ac mae’n 8,000 yn uwch na’r un chwarter yn 2011
- Roedd y gyfradd Diweithdra Tymor Byr ymhlith Pobl Ifanc (hyd at 6 mis) yn 15,400, 3,600 o ostyngiad o’i gymharu a Gorffennaf 2011