Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn Ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

David Jones: “Economi Cymru’n dangos adferiad parhaus”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Labour Market Statistics

Mae cynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth hon yn gweithio ar gyfer pobl Cymru, yn ôl David Jones heddiw, wrth i ffigurau swyddogol ddatgelu cynnydd pellach yn lefelau cyflogaeth yng Nghymru.

Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf i gael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (19 Mawrth) wedi datgelu fod 1,000 yn fwy o bobl bellach mewn gwaith dros y chwarter diwethaf.

Gwelodd Cymru hefyd y cwymp mwyaf yng nghyfradd diweithdra o holl genhedloedd a rhanbarthau’r DU dros y chwarter diwethaf – a thros y flwyddyn ddiwethaf yn ei chyfanrwydd – gan syrthio i 6.7 y cant o’i gymharu â ffigur y DU sef 7.2 y cant.

Mae diweithdra yng Nghymru wedi gweld cwymp o 12,000 dros y chwarter diwethaf, ac mae nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith hefyd wedi gweld gostyngiad o 1,400 dros y mis diwethaf.

Dangosodd y ffigurau hefyd gynnydd bychan mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc dros y mis diwethaf. Fodd bynnag, dros y flwyddyn gyfan, mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi gostwng 5,300.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r ffigurau hyn yn dangos unwaith eto ein bod yn parhau i weld arwyddion addawol o dwf ac adferiad yng Nghymru. Dan y Llywodraeth hon, mae nifer y bobl sy’n gweithio yng Nghymru wedi mynd y tu hwnt i 1.38 miliwn am y tro cyntaf yn ein hanes. “Ond pe byddem yn rhoi heibio ein cynllun hirdymor, byddem yn ildio’r cynnydd a wnaed gennym. Mae creu swyddi a chael pobl i mewn i gyflogaeth yn ganolog o ran adeiladu economi cryfach a mwy cystadleuol.

“Fodd bynnag, mae’r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd bychan yn lefelau diweithdra ymysg pobl ifanc yn dangos nad yw’r gwaith wedi ei gwblhau eto.

Y mis nesaf, byddaf yn cynnal y trydydd yn y gyfres o Uwchgynadleddau Swyddi Swyddfa Cymru a fydd unwaith eto’n canolbwyntio ar hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i’r ifanc yn y sector Busnesau Bach a Chanolig.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau fod pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y farchnad lafur er mwyn hyrwyddo’u rhagolygon o ran gyrfa, lleihau’r risg o ddiweithdra hirdymor a dibyniaeth ar les, ac annog symudedd cymdeithasol a mwy o dwf economaidd.

Cyhoeddwyd ar 19 March 2014