Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw [12 Mehefin] yn parhau i ddangos arwyddion calonogol o dwf am yr ail fis yn olynol, meddai Ysgrifennydd Cymru, David Jones.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Business Graph

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 10,000 dros y chwarter olaf a bod 32,000 o bobl ychwanegol yn gweithio o gymharu â’r adeg hon y llynedd.

Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn parhau i ddisgyn yng Nghymru – dros y ddau fis diwethaf rydym wedi gweld lleihad sylweddol mewn diweithdra ymysg pobl ifanc. Er nad yw diweithdra yng Nghymru wedi newid dros y chwarter diwethaf, mae wedi gostwng 6,000 dros y flwyddyn.

Dywedodd Mr Jones:

Mae’n galonogol iawn fod yr ystadegau diweddaraf yn parhau i ddangos arwyddion calonogol o dwf yng Nghymru ac mae’r ffigurau hyn yn dangos bod Cymru’n symud i’r cyfeiriad iawn.

Mae cefnogi ein heconomi yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU ac mae ffigurau heddiw’n dangos ein bod ni ar y trywydd iawn.

Mae’n gadarnhaol gwybod bod 32,000 o bobl ychwanegol yn gweithio o gymharu â’r adeg hon y llynedd.

Byddaf yn cynnal ail Uwchgynhadledd Swyddi, yng Ngogledd Cymru’r tro hwn, i annog ac ysgogi trafodaethau ynghylch cyflogaeth a’r materion y mae busnesau’n eu hwynebu.

Cyhoeddwyd ar 12 June 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 June 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.