Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i addasiadau cyllidebol ar ôl Datganiad yr Hydref

Heddiw [8fed Rhagfyr 2011] mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymateb i Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig Danny Alexander,…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [8fed Rhagfyr 2011] mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymateb i Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig Danny Alexander, y Prif Ysgrifennydd, sy’n cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru, mewn cyfnod lle mae cyllidebau adrannau yn lleihau, yn cael cyllid ychwanegol o ganlyniad i newidiadau sydd yn Natganiad yr Hydref.

Roedd y Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig yn nodi y bydd dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus, ar gyfartaledd, yn un y cant i bob un o’r ddwy flynedd sy’n dilyn diwedd y cyfnod presennol o rewi cyflogau, ac y bydd cyllidebau adrannau yn cael eu haddasu yn unol a’r polisi hwn. Hefyd, yn dilyn trafodaethau gydag Adrannau’r DU ynghylch cyflogau, pwysleisiodd y Prif Ysgrifennydd y bydd cynnydd net yn y cyllidebau cyfredol ar gyfer y Gweinyddiaethau Datganoledig, gyda £22m yn rhagor i Gymru dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant o ganlyniad i’r mesurau a gyhoeddwyd.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn newyddion cadarnhaol ac rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael o ganlyniad i’r mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref. Mae’r codiad cyflog o 1% i weithwyr yn y sector cyhoeddus, er yn fesur caled o hyd, yn deg ac ystyried bod pobl yn dal i gael cymorth drwy ddatblygiad cyflog, a’r ffaith bod cyflog y sector cyhoeddus yn dal yn hael o’i gymharu a’r sector preifat. 

“Ar 29ain Tachwedd, cyhoeddodd y Canghellor y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £216m yn ychwanegol, a heddiw, rydym yn cyhoeddi £22m yn rhagor. Mae angen i bob rhan o’r economi wneud cyfraniadau i sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y DU, ac er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd, rwy’n credu bod Cymru’n cael del dda.”

Cyhoeddwyd ar 8 December 2011