Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ddatganiad yr Hydref: Bydd mesurau’r DU yn helpu i roi hwb i economi Cymru

Heddiw, 29 Tachwedd, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu Datganiad yr Hydref, sy’n cynnwys £216m ychwanegol i Gymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, 29 Tachwedd, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu Datganiad yr Hydref, sy’n cynnwys £216m ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf.

Heddiw, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y bydd Llywodraeth y DU yn defnyddio arbedion o ganlyniad i wario llai, i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith a chyflwyno mesurau rhyddhau credyd i fusnesau bach a chanolig.

Tynnodd Datganiad yr Hydref sylw hefyd at gynlluniau i ohirio’r cynnydd mewn treth tanwydd, cynnig profiad gwaith i bob person ifanc 18-24 oed sy’n ddi-waith ac sy’n dymuno hynny o dan y Contract Ieuenctid a chynnydd o 5.2% mewn pensiynau, a fydd yn gweld oddeutu 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn elwa.

Dywedodd Mrs Gillan: “Bydd Datganiad yr Hydref heddiw yn cael effaith gref ar Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £216m o gyfalaf yn ychwanegol ac fe fyddwn i’n eu hannog i ddefnyddio’r cyllid ychwanegol i wella cyfleoedd twf.    

“Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu amgylchedd busnes cryf a sefydlog, ac fel rhan o’r mesurau twf, rydyn ni wedi cyhoeddi y bydd busnesau ledled Cymru yn elwa. Bydd y Cynllun Gwarantu Benthyciad Cenedlaethol yn caniatau i fanciau gynnig benthyciadau am gost is i Fentrau Bach a Chanolig.

“Gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi’r ardaloedd menter yng Nghymru, rwy’n gobeithio y byddan nhw hefyd yn dilyn Llywodraeth y DU o ran ardrethi busnes, gyda chymorth ychwanegol i fusnesau bach a chanolig.

“Eleni, tynnodd Swyddfa Cymru sylw at bryderon busnesau gwledig ac amaethyddol gydag adroddiad y Tasglu Economi Wledig, felly bydd y newyddion am ohirio chwyddiant yn y dreth tanwydd yn cael ei groesawu. Mae’r un peth yn wir am Gaerdydd yn un o’r 10 dinas cysylltiadau cyflym o ganlyniad i’r Gronfa Band Eang Trefol, sy’n ychwanegol at y £57 miliwn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi ar gyfer band eang cyflym iawn ledled Cymru. Mae angen y mesurau hyn ar Gymru, gan eu bod yn cael effaith allweddol ar a yw cymunedau bychan a gwledig am oroesi a bod yn gynaliadwy.

“Mae’r mesurau heddiw, sy’n cynnwys cynnydd o 5.2% ym mhensiwn sylfaenol y wladwriaeth, o fudd i 600,000 o  bensiynwyr a bydd rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc gael profiad gwaith.  Rwyf hefyd yn falch o weld mesurau i leihau pwysau treth ar fusnesau, o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau. Mae hwn yn ddatganiad o blaid busnesau ac yn rhywbeth ychwanegol, iach, i’w ychwanegu at setliad sydd eisoes yn hael i Gymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad y Canghellor, ewch i: (http://www.hm-treasury.gov.uk/)

Cyhoeddwyd ar 29 November 2011