Yr Ysgrifennydd Gwladol yn Derbyn y Dyddiad a Ffafrir gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer cynnal y Refferendwm
Heddiw [dydd Mawrth 21 Medi], hysbyswyd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mai’r dyddiad a ffafrir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i …
Heddiw [dydd Mawrth 21 Medi], hysbyswyd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mai’r dyddiad a ffafrir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad yw Dydd Iau, 3 Mawrth 2010.
Meddai Mrs Gillan: “Roeddwn eisoes wedi gofyn i Brif Weinidog Cymru pa ddyddiad y byddai ef yn ei ffafrio ar gyfer cynnal Refferendwm Cymru, ac yn ein trafodaethau’n gynharach heddiw dywedodd mai Mawrth 3ydd fyddai orau ganddo. Dywedais wrtho y byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau’r dyddiad hwnnw a’m bwriad yw cyflwyno Gorchymyn y Refferendwm gerbron y Senedd fis nesaf.
“Yn y cyfamser, bydd swyddogion Swyddfa Cymru yn parhau i weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru i wireddu’r ymrwymiad i gynnal y refferendwm cyn chwarter cyntaf 2011.”