Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn hybu cyfleoedd busnes, addysg a hyfforddiant rhwng y DU a Fietnam

Ac yntau ar daith masnach a buddsoddi yn Asia, mae cyfnod David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn Fietnam wedi dod i ben gyda chyfres o gyfarfodydd yn Hanoi a Dinas Ho Chi Minh i hybu’r cyfleoedd a’r manteision i gwmnïau o Brydain wrth gynnal busnes yn y wlad.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn Hanoi, bu Mr Jones mewn brecwast busnes gydag aelodau o Grŵp Busnes Prydeinig Fietnam – grŵp sy’n cynrychioli, yn cefnogi ac yn cynorthwyo pobl a busnesau yn Fietnam sydd â chysylltiadau â’r DU.

Bu’r grŵp yn trafod y cyfleoedd a’r sialensiau sy’n wynebu busnesau sy’n awyddus i weithio yn y farchnad sy’n datblygu yn Fietnam, a’r cymorth sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd i fusnesau bach a chanolig sy’n dymuno allforio i farchnadoedd Asia am y tro cyntaf.

Fis Hydref y llynedd, lansiodd yr Arglwydd Green, y Gweinidog Masnach a Buddsoddi, y cynllun ‘Headstart’. Mae’r cynllun hwn yn cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig ym Mhrydain drwy gynnig mynediad at rwydweithiau busnes lleol yn Asia a’u cyflwyno i gwmnïau o’r DU sydd eisoes wedi sefydlu eu hunain.

Ar ôl y cyhoeddiad hwn, rhannodd y Prif Weinidog y newyddion y bydd prosiect peilot newydd gwerth £8 miliwn i gryfhau gallu grwpiau busnes tramor, fel siambrau masnach, yn cael ei gyflwyno mewn 20 o wledydd allweddol – gan gynnwys Fietnam.

Dywedodd Mr Jones:

Mae’r farchnad Asiaidd yn cynnig cyfleoedd enfawr i fusnesau bach a chanolig, ond gall y syniad o fentro i farchnadoedd anghyfarwydd fod yn ddigon brawychus. Ceir amryw o fusnesau o Brydain a fyddai’n gallu allforio i Dde Ddwyrain Asia, ac mae’r cynllun hwn yn rhoi’r cymorth angenrheidiol iddynt gymryd y cam cyntaf hwnnw.

Bydd y prosiect peilot tramor yn helpu i weddnewid y modd y mae’r DU yn darparu cymorth masnach i fusnesau’r DU mewn gwledydd tramor, gan sicrhau y bydd y DU yn gallu bod yr un mor gystadleuol â gwledydd fel yr Almaen, yr Unol Daleithiau a Ffrainc – gwledydd sydd â siambrau cryf mewn gwledydd tramor, a’r rheini’n gallu cefnogi busnesau domestig mewn marchnadoedd tramor.

Mae uned newydd wedi cael ei sefydlu ym Masnach a Buddsoddi y DU i fynd â’r prosiect drwy ei gam cyntaf, a bydd yr uned hon yn adeiladu ar drafodaethau ar draws amrywiaeth o gyrff busnes, gan gynnwys Siambrau Masnach Prydain, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol a’r Ffederasiwn Busnesau Bach. Bwriad hyn yw gwneud y profiad o dyfu ac ehangu i farchnadoedd tramor yn haws ac yn fwy di-dor i fusnesau yn y DU.

Aeth yn ei flaen:

Drwy gydol fy ymweliad, rwyf wedi cael fy nharo gan y cyfleoedd enfawr sydd ar gael i’r rheini yn y DU sy’n darparu gwasanaethau proffesiynol, hyfforddiant ac addysg.

Dywedodd Nick Baird, prif weithredwr Masnach a Buddsoddi y DU:

Mae Asia yn farchnad bwysig dros ben i fusnesau’r DU ac yn ffynhonnell bwysig sy’n datblygu o ran buddsoddiad uniongyrchol o dramor i’r DU. Mae’n gartref i nifer o’r economïau sy’n datblygu gyflymaf yn y byd, a cheir yno awydd cynyddol am nwyddau Prydeinig. Mae Masnach a Buddsoddi y DU, drwy ei rwydwaith o staff mewn mwy na 100 o lysgenadaethau a chonsyliaethau ar hyd a lled y byd, yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod cwmnïau o Brydain, yn enwedig busnesau bach a chanolig, yn manteisio ar y cyfle i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd ar draws yr ardal.

Cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd gyfle i gyfarfod â David Priestly, Prif Swyddog Gweithredol Rolls Royce yn Fietnam, lle cafodd wybodaeth am ddiddordebau a buddsoddiadau Rolls Royce yn Fietnam ac yn benodol am ddyhead y cwmni i gyflenwi peiriannau i Vietnam Airlines – dyhead sy’n cael cefnogaeth gadarn gan Lywodraeth y DU fel prosiect allweddol yn y berthynas masnach a buddsoddi ehangach rhwng y DU a Fietnam.

Yn Ninas Ho Chi Minh, cyfarfu Mr Jones â Madame Nguyen Thi Hong, Is-gadeirydd Pwyllgor y Bobl Dinas Ho Chi Minh, er mwyn hybu arbenigedd busnesau Prydeinig mewn Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat, a’r cyfleoedd uchel eu gwerth sydd ar gael i fusnesau’r DU wrth i’r ddinas baratoi i ymroi i’w rhaglen uchelgeisiol ar gyfer datblygiadau seilwaith a dinesig.

Dinas Ho Chi Minh yw canolbwynt economaidd Fietnam. Mae rhaglen arwyddocaol o brosiectau adfywio ar droed ar gyfer y ddinas, gan gynnwys adeiladu canolfan ariannol newydd yn Thu Thiem, datblygu system reilffordd danddaearol newydd yn y ddinas, ac ailddatblygu maes awyr rhyngwladol Long Thanh.

Mae Madame Hong eisoes wedi cyfarfod â nifer o gwmnïau o Brydain sy’n ymwneud â’r meysydd ariannol, dylunio, peirianneg ac adeiladu ac sydd â phresenoldeb yn Fietnam, er mwyn llywio’r cynlluniau ailddatblygu. Bu hefyd yn ymweld â City UK a Canary Wharf yn Llundain yn gynharach eleni er mwyn cael ffeithiau.

Manteisiodd Mr Jones ar y cyfle i dynnu sylw at yr arbenigedd y gall cwmnïau o Brydain ei gynnig, ac i sôn am y cymorth y gallant ei roi i ddatblygu’r prosiectau hyn a’u hadeiladu.

Dywedodd:

Mae cwmnïau’r DU yn arweinwyr drwy’r byd ym maes rheoli prosiectau seilwaith mawr, a bydd hyn yn amlwg yn faes pwysig i Fietnam yn y blynyddoedd nesaf. Gan ystyried maint y buddsoddiad sydd ei angen, bydd angen modelau cyllid newydd hefyd. Rydym wedi mynd ati’n frwd i rannu ein profiadau ni o bartneriaethau cyhoeddus-preifat yn ystod ein hymweliad, ac rydym yn gobeithio bod hwn yn faes lle gall cwmnïau’r DU gyfrannu eu profiadau o safon fyd-eang.

Cyn i’r Ysgrifennydd Gwladol gychwyn i Hong Kong – cam olaf y daith masnach – cyfarfu ag uwch weithredwyr sy’n berchen ar gwmnïau yn Fietnam ac yn eu rheoli. Rhoddodd y cyfarfod gyfle i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chynnal busnes yn Fietnam, ac i hybu’r DU fel cyfle posib ar gyfer buddsoddiad busnes.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.