Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn addo sicrwydd a sefydlogrwydd i gwmnïau rhyngwladol yng Nghymru

Heddiw (13 Gorffennaf) bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau rhyngwladol yng Nghymru, wrth i'r DU baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Mr Cairns yn ymweld â Panasonic Manufacturing ar gyrion Caerdydd. Mae’r cwmni electroneg hwn o Japan wedi bod yn bresennol yng Nghymru ers 1974.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae fy ymweliad â Panasonic yn barhad o fy ymrwymiad i ymgysylltu â busnesau byd-eang sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru, ac i roi’r sicrwydd iddynt y bydd Cymru yn wlad a fydd yr un mor uchelgeisiol ag o’r blaen, ac yn dal i edrych tuag at y byd mawr y tu allan, wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Panasonic yn fewnfuddsoddwr pwysig yng Nghymru. Rydyn ni’n awyddus i weithio’n agos gyda busnesau o bedwar ban byd i ddangos y potensial enfawr sydd yma iddynt yng Nghymru, ac i roi’r sicrwydd sydd eu hangen arnynt i fuddsoddi ac i dyfu.

Mae gan Panasonic hanes hir yng Nghymru, a dros y blynyddoedd mae wedi datblygu a chynhyrchu amryw byd o linellau cynnyrch, gan gynnwys cynnyrch clyweledol, teclynnau i’r cartref, a chynnyrch cyfrifiadurol gan gynnwys atebion symudol. Mae dros 400 aelod o staff yn gweithio yn ei safle yng Nghaerdydd, ac mae’n cynnig y gallu i ddarparu gwasanaethau profi i gwmnïau allanol.

Dywedodd Mr Cairns:

Wrth feddwl am Panasonic rydych chi’n meddwl am arbenigedd, ac mae gan y cwmni hanes hir o gynhyrchu. Mae’n fraint ei gael yma yn ne Cymru, yn cyflogi ein gweithwyr medrus lleol ac yn cyfrannu at dwf economaidd lleol.

Japan yw un o brif bartneriaid economaidd y DU, ac ein hail fewnfuddsoddwr mwyaf. Rydym am weld ein partneriaeth yn parhau i dyfu a ffynnu.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 13 July 2017