Ysgrifennydd Cymru: Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn llongyfarch y rhai a gafodd Anrhydedd yn y Flwyddyn Newydd.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Mae bob amser yn briodol ein bod yn dod â’r flwyddyn i ben drwy gydnabod y rheini sydd wedi rhoi o’u hamser ac ymdrechu i wella bywydau pobl eraill.
Mae’r Anrhydeddau hyn yn cydnabod y dynion a’r merched eithriadol hyn, o bob math o gefndiroedd yng Nghymru, sydd wedi’u dethol ar sail eu cyfraniad cwbl anhunanol sydd fel arfer yn cael ei wneud heb siw na miw. Hoffwn longyfarch y llysgenhadon hyn o Gymru sy’n cynrychioli’r hyn sy’n dda yn ein cymunedau clòs. Rydyn ni’n falch iawn o bob un ohonyn nhw.