Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru i gwrdd â Chyn-filwyr Cymreig yng Nghaerdydd

Heddiw (dydd Iau 27 Gorffennaf) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, yn cwrdd â Chyn-filwyr Cymreig yng Nghaerdydd, cyn ei ymweliad â Gwlad Belg i nodi canmlwyddiant Trydedd Frwydr Ypres.

Heddiw (dydd Iau 27 Gorffennaf) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, yn cwrdd â Chyn-filwyr Cymreig yng Nghaerdydd, cyn ei ymweliad â Gwlad Belg i nodi canmlwyddiant Trydedd Frwydr Ypres.

Adwaenir y frwydr yn aml fel Passchendaele, ac mae’n cael ei chofio fel un o ymgyrchoedd mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Canfu unedau o’r 38ain Adran Gymreig, a oedd wedi brwydro’n ddewr yn Mametz Wood flwyddyn ynghynt, eu hunain yn y rheng flaen yn Passchendaele. Yma hefyd y lladdwyd y bardd enwog, Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917 ac mae wedi’i gladdu ym mynwent Artillery Wood gerllaw, yn agos at Ypres.

Cyn ei ymweliad â Gwlad Belg y penwythnos hwn, mae Ysgrifennydd Cymru wedi manteisio ar y cyfle i gwrdd â chyn-filwyr yn nigwyddiad Galw i Mewn y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghaerdydd i ddatgan gwerthfawrogiad a pharch pobl Cymru am yr hyn maent wedi’i aberthu.

Mae Mr Cairns yn cydnabod pwysigrwydd anrhydeddu’r Cyn-filwyr Cymreig:

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae’r digwyddiadau i gofio canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf yn bwysig dros ben i addysgu ac i gysylltu cenhedloedd heddiw a’r dyfodol â hanesion pob dyn a dynes a effeithiwyd gan y digwyddiad pwysig hwn yn ein hanes.

Mae’n fraint cael hanes milwrol mor hir a balch yng Nghymru ac mae’n anrhydedd enfawr heddiw i gael cwrdd â chyn-filwyr Cymreig sydd wedi byw trwy nifer o ryfeloedd dros y blynyddoedd. Mae’r hyn maent hwy a chymaint o rai eraill wedi’i aberthu i sicrhau dyfodol diogel i ni yn rhywbeth na allwn ei anghofio ac mae’n hanfodol ein bod ni heddiw yn deall ac yn gwerthfawrogi hynny.

Mae’r gwaith mae’r Lleng Brydeinig yn ei wneud i wella bywydau cymuned y lluoedd arfog yn rhywbeth na ellir ei orbwysleisio. Mae ganddi rôl holl bwysig i ddyfarnu grantiau, cynnig cymorth emosiynol a brawdgarwch a sicrhau bod y genedl yn dod at ei gilydd i gofio. Mae’r cyn-filwyr hyn wir yn ysbrydoliaeth. Maent wedi rhoi cymaint ac oherwydd hynny mae ein dyled ni iddynt yn fawr.

Meddai Ant Metcalfe, Rheolwr Rhanbarth Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol:

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Ysgrifennydd Gwladol ac aelodau o gymuned y cyn-filwyr i’r digwyddiad Galw i Mewn heddiw i drafod materion sy’n effeithio ar gyn-filwyr heddiw yn ogystal â phwysigrwydd cofio am y rhai a gwympodd yn rhyfeloedd y gorffennol. Fel elusen fwyaf y Lluoedd Arfog a gwarchodwyr y Cofio, mae’r Lleng yn gweithio i ddarparu gofal a chymorth i bob aelod o Luoedd Arfog Prydain, ddoe a heddiw, a’u teuluoedd.

Nodiadau i olygyddion

Lluoedd Cymreig yn Passchendaele

  • Mae Trydedd Frwydr Ypres yn un arwyddocaol iawn i Gymru gan ei bod wedi hawlio bywydau llawr o filwyr Cymreig gan gynnwys y bardd enwog, Hedd Wyn. Lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917 ac mae wedi’i gladdu ym mynwent Artillery Wood gerllaw, ger Ypres.

  • Canfu unedau o’r 38ain Adran Gymreig, a oedd wedi brwydro’n ddewr yn Mametz Wood flwyddyn ynghynt, eu hunain yn y rheng flaen yn Nhrydedd Frwydr Ypres (Passchendaele). Roedd y 38ain Adran Gymreig yn flaenllaw yn Pilckem Ridge hefyd. Ochr yn ochr â milwyr profiadol a oedd wedi ymladd ym Mrwydr y Somme roedd milwyr newydd a oedd wedi cael eu consgriptio ar ddechrau 1917.

  • Yn ystod y brwydro dyfarnwyd Croes Victoria i dri Chymro, y Rhingyll Ivor Rees 11eg Cyffinwyr De Cymru, y Corporal James Llewellyn Davies 13eg y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol a’r Rhingyll Robert Bye 1af y Gwarchodlu Cymreig. Dioddefodd y 38ain Adran Gymreig gyfanswm o 2,922 o farwolaethau yn ystod brwydro 31 Gorffennaf a 2 Awst.

Cyhoeddwyd ar 27 July 2017