Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn cwrdd â swyddogion Tata Steel

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi cwrdd ag uwch swyddogion Tata Steel yn ei safle ym Mhort Talbot heddiw (24 Ionawr 2013).…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi cwrdd ag uwch swyddogion Tata Steel yn ei safle ym Mhort Talbot heddiw (24 Ionawr 2013).

Bu Mr Jones yn trafod y materion sy’n wynebu’r diwydiant dur ag uwch swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur, a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am lefel y cymorth sy’n cael ei roi i weithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch colli swyddi.  

Wrth siarad ar ol y cyfarfod, dywedodd Mr Jones: 

“Roeddwn yn falch o gael cwrdd ag uwch gynrychiolwyr o Tata Steel a’r undebau heddiw i gael cyfle i glywed am y sialensiau mae’r diwydiant yn eu hwynebu mewn amodau masnachu anodd yn rhyngwladol. Roedd hi’n ddefnyddiol trafod sut gall y Llywodraeth a’r sefydliad gydweithio i sicrhau bod gweithrediadau Tata yn y DU yn aros yn gystadleuol.

“Rhaid canmol yr ymrwymiad gan Tata a chynrychiolwyr yr undebau i gefnogi ei weithwyr drwy’r cyfnod anodd hwn. Mae’n amlwg bod ymrwymiad clir i gadw presenoldeb cynhyrchu dur iach yng Nghymru. Rwyf yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Bort Talbot yn y dyfodol agos iawn i weld y gwaith dur ar waith.”

Cyhoeddwyd ar 24 January 2013