Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwrdd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Heddiw bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn croesawu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks i Swyddfa Cymru yn Llundain.    Wrth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn croesawu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks i Swyddfa Cymru yn Llundain.   

Wrth gwrdd a Ruth Marks am y tro cyntaf yn ei swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, pwysleisiodd Mrs Gillan ymrwymiad y Llywodraeth i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru. 

Meddai Mrs Gillan: “Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae Ruth Marks yn eiriolwr penigamp dros hawliau pobl hŷn. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar bryderon pobl hŷn ac yn gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed.

“Cefais gyfle heddiw i siarad a Ruth am rai o’r materion hynny sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru, megis urddas mewn gofal, gwahaniaethu ar sail oed ac atal troseddu. Mae’r pynciau hyn eisoes yn uchel ar ei hagenda a gwn y bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i hwyluso ei gwaith.”

Cyhoeddwyd ar 13 July 2010