Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Cyfarfod â Mr Messham

Heddiw [6 Tachwedd] yn Nhŷ Gwydyr, Llundain, cyfarfu David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Steve Messham a gafodd ei gam-drin yng Ngogledd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [6 Tachwedd] yn Nhŷ Gwydyr, Llundain, cyfarfu David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Steve Messham a gafodd ei gam-drin yng Ngogledd Cymru pan oedd yn blentyn.  

Wrth siarad ar ol y cyfarfod, dywedodd Mr Jones:

“Mae cam-drin plant yn drosedd gwirioneddol atgas, a dylid sicrhau bod unrhyw honiadau’n destun ymchwiliad priodol gan yr heddlu. Rwy’n ddiolchgar i Mr Messham am gyfarfod a mi heddiw. Rwyf wedi cael cyfle i wrando arno, ac rwy’n gobeithio bod ymateb y Llywodraeth - a’r camau sy’n cael eu cymryd yn awr - yn rhoi tawelwch meddwl iddo.**

“Buom yn trafod cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cartref heddiw a’r ymchwiliadau a fydd yn cael eu lansio yn awr. Mae wedi croesawu’r ffaith y bydd Keith Bristow, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, yn arwain y gwaith o adolygu’r ymchwiliad a gynhaliwyd gan yr heddlu yn y gorffennol, ac yn ymchwilio i’r honiadau newydd o gam-drin yn y cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru yn y gorffennol.    

“Bydd yr ymchwiliad hwn, ynghyd a’r un i Ymchwiliad Waterhouse, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddoe, yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i sicrhau y bydd yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu’r dioddefwyr ac i fynd at wraidd yr honiadau dychrynllyd hyn.”

NODIADAU I OLYGYDDION

 1. Gellir gweld manylion cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cartref yma: http://www.homeoffice.gov.uk/media-centre/news/historic-abuse-allegations

Cyhoeddwyd ar 6 November 2012