Ysgrifennydd Cymru yn nodi blwyddyn ers trychineb Glofa’r Gleision
Flwyddyn ar ol y digwyddiad yng nglofa’r Gleision (15 Medi), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi mynegi ei gydymdeimlad a theuluoedd y pedwar…

Flwyddyn ar ol y digwyddiad yng nglofa’r Gleision (15 Medi), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi mynegi ei gydymdeimlad a theuluoedd y pedwar dyn dewr a fu farw yn y trychineb.
Bu farw David Powell, Garry Jenkins, Charles Breslin a Phillip Hill pan wnaeth y lofa lenwi a dŵr ar Fedi’r 15fed y llynedd.
Wrth nodi’r dyddiad emosiynol, dywedodd Mr Jones:
“Heddiw, mae fy meddyliau, gweddiau a chydymdeimlad dwysaf yn mynd i deuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid y dynion dewr a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Glofa’r Gleision y llynedd.
“Fe wnaeth y digwyddiad gyffwrdd calonnau pob un ohonom, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled Prydain.
“Mae Heddlu De Cymru ar hyn o bryd yn arwain yr ymchwiliad ac yn gweithio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch”.