Datganiad i'r wasg

Cytundeb Cwmni Awyrofod Magellan ac Airbus yn glod i sgiliau’r gweithlu yng Nghymru

Heddiw, disgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y cyhoeddiad am gytundeb gwerth sawl miliwn rhwng cwmni awyrofod Magellan ac …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, disgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y cyhoeddiad am gytundeb gwerth sawl miliwn rhwng cwmni awyrofod Magellan ac Airbus fel testament i dalent a gallu arloesol y diwydiant awyrennau yng Nghymru.

Cyhoeddodd cwmni awyrofod Magellan heddiw eu bod wedi dod i gytundeb gydag Airbus i ymestyn contract gwerth £370 miliwn i ddarparu cydrannau strwythurol alwminiwm a thitaniwm ar gyfer adenydd o’i weithfeydd yn Wrecsam a Bournemouth.

Bydd y cydrannau’n cael eu defnyddio yn awyrennau A320, A330 ac A380. Ymwelodd Mrs Gillan a phencadlys Airbus yn Toulouse ym mis Mai, ble cafodd gyfarfod ag uwch swyddogion ar arbenigwyr yn y diwydiant cyn cael ei thywys o amgylch Llinell Gynhyrchu Derfynol yr A380.

Yma, talodd deyrnged i weithwyr Cymru am eu cyfraniad at lwyddiant y cwmni, a bydd yn pwysleisio hyn pan fydd yn ymweld ag Airbus a chwmniau awyrennau eraill sydd a chysylltiadau cryf a Chymru yn Sioe Awyr Ryngwladol Farnborough ddydd Gwener 13 Gorffennaf.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae gan y diwydiant awyrennau ran allweddol yn economi Cymru a’r DU o hyd. Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn wirioneddol ddilysu sgiliau, talent a gallu ein gweithlu yma yng Nghymru. Mae gennyn ni’r gallu a’r sgiliau yng Nghymru i gael ein cydnabod ar raddfa fyd-eang.

“Cwmni Awyrofod Magellan yw un o gyflenwyr mwyaf integredig y diwydiant awyrennau yn y byd, a dyma’r math o fuddsoddiad y mae’n rhaid i ni ei ddenu. Mae’r cytundebau hyn yn cyfrannu’n sylweddol at helpu i wneud i economi Cymru dyfu a ffynnu a helpu i gynnal miloedd o swyddi yn y sector awyrennau a’r busnesau hynny sydd yn y gadwyn gyflenwi.”

Cyhoeddwyd ar 10 July 2012