Ysgrifennydd Cymru: Tanio’r ffwrnais chwyth yn brawf o ymrwymiad Tata Steel i gynhyrchu dur yng Nghymru
Mae Tata Steel wedi ailddechrau ei ail ffwrnais chwyth yng ngwaith dur Port Talbot yn y DU ar ol cwblhau prosiect ailadeiladu gwerth £185 miliwn…

Mae Tata Steel wedi ailddechrau ei ail ffwrnais chwyth yng ngwaith dur Port Talbot yn y DU ar ol cwblhau prosiect ailadeiladu gwerth £185 miliwn.
Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae tanio ffwrnais chwyth rhif pedwar yn nodi diwedd ymdrech beirianneg soffistigedig gwerth £185 miliwn, ac mae hefyd yn nodi ymrwymiad Tata i ddyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru.
“Ni ellir gwadu’r sialensiau mae cwmniau dur fel Tata yn eu hwynebu mewn marchnadoedd byd-eang anodd. Yn ystod fy nghyfarfod diweddar gydag uwch swyddogion y cwmni a chynrychiolwyr undebau ym Mhort Talbot, roeddem yn gallu trafod sut gall y Llywodraeth a’r sefydliad gydweithio i sicrhau bod gweithrediadau TATA yn y DU yn gallu aros yn gystadleuol. Bydd ailddechrau’r ffwrnais yn gam mawr tuag at y nod hwnnw, ac rwyf yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Bort Talbot i’w weld yn gweithio’n llawn yn y dyfodol agos.”