Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: Gadewch i ni droi Cymru’n wlad arloesol

Heddiw (6 Tachwedd), mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi galw’n glir ar fusnesau Cymru, yn eu hannog i fanteisio ar gymorth Llywodraeth y DU a mentro i fyd arloesi.

Innovation

Mae Innovate UK yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau o amgylch y DU i gyflwyno rhaglen beilot newydd ar gyfer benthyciadau arloesi.

Daeth yr Ysgrifennydd Gwladol i’r digwyddiad yn Tramshed Tech Caerdydd heddiw, lle galwodd ar y 200 a mwy o gynrychiolwyr busnesau a oedd yn yr ystafell i fynd ati i ddangos egni i arloesi a gwneud cais am gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

Bydd Benthyciadau Arloesi yn cynnig cyllid fforddiadwy, amyneddgar a hyblyg ar gyfer ymchwil sy’n cyrraedd camau aeddfed a phrosiectau datblygu sydd â llwybr clir at lwyddiant masnachol.

Bydd Innovate UK yn cyhoeddi benthyciadau drwy gystadlaethau yn y dyfodol ac yn eu cynnig i fusnesau bach a chanolig sy’n troi o amgylch twf sy’n gallu dangos y canlynol:

  • Bod ganddynt brosiect arloesi o ansawdd uchel
  • Byddant yn gallu fforddio’r taliadau llog a’r ad-daliadau ar fenthyca
  • Bod angen cymorth y sector cyhoeddus arnynt gan nad ydynt yn gallu cael gafael ar gyllid ar delerau masnachol safonol ar gyfer y prosiect

Dywedodd Alun Cairns:

Nid yn unig mae arloesi’n gallu creu chwyldro o ran y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau ond hefyd gall gynnig cyfleoedd gwych i fusnesau fanteisio arnynt a thyfu.

Mae hyd a lled y prosiectau arloesol ac ysbrydoledig y mae Llywodraeth y DU yn eu cefnogi bob amser yn fy syfrdanu. Gan gynnwys yma yng Nghymru.

O geir sy’n cael eu pweru gan hydrogen ym Mhowys i gyllid i adeiladu’r swyddfa gyntaf yn y DU sy’n creu mwy o bŵer na’r hyn mae’n ei ddefnyddio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cyllid Innovate UK yn helpu i roi lle canolog i Gymru yn yr arloesi newydd sy’n newid y ffordd rydym yn gwneud busnes a’r ffordd rydym yn byw, a chael rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu atebion ar gyfer yfory.

Ond mae llawer iawn mwy o botensial ymhlith ein cymuned fusnes sy’n aros am gael ei wireddu. Rwy’n annog busnesau bach a chanolig Cymru i fentro, i gael yr egni i arloesi a chanfod y cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i wneud hynny.

Cyhoeddwyd ar 6 November 2017