Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cyflwyno Gorchymyn am Refferendwm ar 3 Mawrth

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyflwyno Gorchymyn Refferendwm Cymru gerbron y Senedd, er mwyn bwrw ymlaen a threfniadau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyflwyno Gorchymyn Refferendwm Cymru gerbron y Senedd, er mwyn bwrw ymlaen a threfniadau i gynnal y refferendwm ynglŷn a rhagor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Mawrth, 2011.

Dywedodd Mrs Gillan: “Heddiw, rwyf i wedi cyflwyno’r Gorchymyn refferendwm a Gorchmynion cysylltiedig gerbron y Senedd, a fydd yn galluogi i’r refferendwm ynghylch pwerau’r Cynulliad gael ei gynnal ar 3 Mawrth, y flwyddyn nesaf. Dyma benllanw misoedd o waith caled a chydweithrediad rhwng Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid allweddol eraill.

“3 Mawrth oedd y dyddiad y gofynnodd Prif Weinidog Cymru amdano, ac mae’n cyflawni fy ymrwymiad fel Ysgrifennydd Cymru i gynnal y refferendwm yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf.  Mae hefyd yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflawni ei hymrwymiad yn Cymru’n Un i gynnal y refferendwm cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “O’r cychwyn, rydw i wedi ymrwymo i roi’r cyfle i bobl Cymru ddewis mewn refferendwm a oes arnynt eisiau i’r Cynulliad gael rhagor o bwerau. Dyma oedd fy mlaenoriaeth bennaf pan gefais fy mhenodi yn Ysgrifennydd Gwladol, ac fe roddais drefniadau ar waith ar gyfer y refferendwm hwnnw cyn gynted a phosibl, ond heb dorri corneli a fyddai’n rhoi didwylledd y broses yn y fantol.

“Drwy gydol y broses, mae ystod eang o randdeiliaid allweddol wedi bod yn gysylltiedig a Bwrdd Prosiect y Refferendwm, sy’n cael ei arwain gan Swyddfa Cymru.  Rwy’n hyderus y bydd y ddeddfwriaeth yr wyf i wedi ei chyflwyno heddiw yn sail ar gyfer proses refferendwm deg ac effeithlon, gyda chwestiwn refferendwm sydd wedi’i argymell gan y Comisiwn Etholiadol.

“Nid yw ond yn deg bod pobl Cymru yn cael dweud eu dweud yn awr yn y refferendwm fis Mawrth nesaf.”

Bydd Gorchymyn Refferendwm Cymru yn cael ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd. Yn amodol ar gymeradwyaeth Dau Dŷ’r Senedd a’r Cynulliad, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyflwyno’r Gorchymyn sydd i’w wneud gan ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Y nod yw cwblhau’r broses hon cyn y Nadolig.

Datganiad Gweinidogol am y Refferendwm

Nodiadau

Ar fwrdd prosiect y refferendwm, gwelwyd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Comisiwn Etholiadol, Comisiwn y Cynulliad a Swyddfa’r Cabinet a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y gwnaethant oll gyfrannu at y broses o lunio’r ddeddfwriaeth hon.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol bellach wedi cyflwyno tri Gorchymyn drafft gerbron y Senedd:

  • Y Gorchymyn Refferendwm drafft (Gorchymyn Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Darpariaethau Deddfau’r Cynulliad) (Cwestiwn y Refferendwm, Dyddiad y Refferendwm, ac ati) 2010)
  • Y Gorchymyn Terfyn Treuliau drafft (Gorchymyn Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Darpariaethau Deddfau’r Cynulliad) (Cyfyngu ar Dreuliau’r Refferendwm, ac ati) 2010)
  • Gorchymyn Atodlen 7 drafft (Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) 2010)

Mae hi hefyd wedi gwneud datganiad Gweinidogol ysgrifenedig i’r Senedd ynghylch “Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  Refferendwm ynghylch pwerau deddfu”, yn cadarnhau ei bod wedi cyflwyno’r Gorchmynion hyn, a’i bod hefyd wedi rhoi copi o adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar ei safbwyntiau ynghylch y cwestiwn refferendwm arfaethedig yn llyfrgelloedd y ddau Dŷ. Mae hi wedi derbyn argymhellion y Comisiwn Etholiadol ynglŷn a geiriad cwestiwn y refferendwm.

Yn y Gorchymyn Refferendwm drafft y ceir y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth ar gyfer cynnal y refferendwm. Mae’n darparu ar gyfer dyddiad y refferendwm, cwestiwn y refferendwm, sut gall pobl bleidleisio yn y refferendwm (gan gynnwys darparu ar gyfer pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy), a rheolau’r refferendwm (sut caiff y refferendwm ei redeg a’i weinyddu, gan gynnwys sut caiff y pleidleisiau eu cyfrif). Mae hefyd yn cynnwys atodiad o ffurflenni, gan gynnwys papur pleidleisio, cardiau pleidleisio swyddogol, datganiadau pleidleisio drwy ddirprwy a thrwy’r post.

Mae’r Gorchymyn Terfyn Treuliau yn pennu’r cyfyngiadau ar wariant ar gyfer y cyfranogwyr a ganiateir sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi pennu’r rhain ar y lefel a argymhellir gan y Comisiwn Etholiadol.

Mae Gorchymyn Diwygio Atodlen 7 yn diweddaru Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r Atodlen yn rhestru’r pynciau y gallai’r Cynulliad ddeddfu yn eu cylch petai’r bleidlais yn un Ie. Mae’r newidiadau yn diweddaru’r Atodlen er mwyn ystyried y pwerau y mae’r Cynulliad wedi eu hennill ers i’r Atodlen gael ei diweddaru ddiwethaf yn 2007.

Bydd y Gorchymyn refferendwm a Gorchymyn Atodlen 7 yn cael eu trafod yn y Cynulliad yn gyntaf, cyn cael eu trafod yn y Senedd. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan fwyafrif o ddwy ran o dair yn y Cynulliad, a chan fwyafrif syml yn nau Dŷ’r Senedd, bydd y ddau Orchymyn hyn yn cael eu gwneud wedyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Dim ond yn y Senedd y bydd y Gorchymyn Terfyn Treuliau yn cael ei drafod, ac yn amodol ar gymeradwyaeth yn y Senedd, bydd yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Bydd cyfnod y refferendwm yn dechrau ar y diwrnod y daw’r Gorchymyn refferendwm i rym. Y bwriad yw mai 16eg Rhagfyr fydd y dyddiad dechrau. Cyn gynted ag y bydd cyfnod y refferendwm yn dechrau, bydd y rheini sy’n dymuno ymgyrchu a gwario swm sylweddol o arian (£10,000 neu ragor) yn gallu gwneud cais i’r Comisiwn Etholiadol i gael eu cofrestru fel cyfranogwyr a ganiateir, a bydd eu gwariant yna’n cael ei reoleiddio. Hefyd, bydd gan gyfranogwyr a ganiateir bum wythnos i wneud cais i arwain yr ymgyrch Ie neu’r ymgyrch Na. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn penderfynu a allant ddynodi cyrff arweiniol ar ddwy ochr yr ymgyrch erbyn Chwefror 2, 2011. Rhaid iddynt ddynodi cyrff ar ddwy ochr yr ymgyrch, neu ddim o gwbl. Os cant eu dynodi, bydd gan arweinwyr yr ymgyrch Ie a’r ymgyrch Na hawl i gael cymorth ariannol a chymorth arall, a ddarperir ar ei gyfer yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Y Comisiwn Etholiadol fydd yn penderfynu ar swm y cymorth ariannol fydd ar gael.

Cyhoeddwyd ar 21 October 2010