Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Y ffigurau cyflogaeth diweddaraf yn dangos “arwyddion clir o dwf yng Nghymru”

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru, a gyhoeddwyd heddiw (15 Mai), yn dangos twf yn economi Cymru, ond nid dyma’r amser i ni orffwys ar ein rhwyfau, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wales Office

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 6,000 a’r gyfradd ddiweithdra wedi gostwng 0.5 y cant. Dyma’r gostyngiad mwyaf ar y cyd yn unrhyw ranbarth yn y DU. Daw hyn law yn llaw â chynnydd o 16,000 mewn cyflogaeth a gostyngiad o 14,000 mewn anweithgarwch economaidd.

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r ffigurau hyn yn dda iawn i Gymru. Maen nhw’n dangos bod arwyddion clir o dwf yng Nghymru. Ond byddem yn ffôl i awgrymu bod y gwaith caled drosodd. “Rydw i’n gwybod ar ôl bod yn siarad gyda busnesau ledled Cymru eu bod nhw’n fwy a mwy optimistig am y dyfodol ac rydw i’n credu bod hyn i’w weld heddiw yn y cynnydd o 16,000 o bobl mewn cyflogaeth.

“Mae Cymru mewn ras fyd-eang a ’fedrwn ni ddim fforddio bod yn wylwyr yn y ras yma. Rydw i’n hyderus y bydd y mesurau sy’n cael eu rhoi yn eu lle gan Lywodraeth y DU, fel y Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, o fudd pellach i gwmnïau Cymru drwy greu hinsawdd economaidd fwy ffafriol ar gyfer cynnal eu busnes ynddi.”

Cyhoeddwyd ar 15 May 2013