Ysgrifennydd Cymru’n gwthio am fasnach allforio o Gymru yn Orangebox yn Nantgarw
"Mae Orangebox yn esiampl wych o gwmni’n rhoi Cymru ar y map ym mhob cwr o’r byd"

“Mae’n amser i fusnesau yng Nghymru fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd allforio byd-eang” - dyma fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ei ddweud heddiw (14 Medi) wrth ymweld â gweithgynhyrchwr dodrefn yn Nantgarw sy’n gwneud ei farc mewn marchnadoedd byd-eang.
Bydd Mr Cairns yn ymweld ag Orangebox ym Mharc Nantgarw, cwmni sydd â chasgliad o gleientiaid mawr a sianelau allforio sy’n cyrraedd Ewrop, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell ac UDA.
Bydd yn cyfarfod uwch swyddogion gweithredol y cwmni i glywed am eu cynlluniau i ehangu yn y dyfodol ac i bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau yng Nghymru wrth i’r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae llu o gwmnïau arloesol ac o’r radd flaenaf yng Nghymru, sy’n rhoi hwb i’r economi, yn creu swyddi ac yn newid bywydau ar draws y wlad. Ond nawr yw’r amser i godi’r safon a dangos i’r byd beth yn union sydd gan Gymru i’w gynnig.
Mae Orangebox yn esiampl wych o gwmni sy’n gwneud hynny - cwmni gyda phencadlys lleol ond eto sydd ag enw da yn rhyngwladol - gan roi Cymru ar y map ym mhob cwr o’r byd.
Wrth i Brydain baratoi i adael yr UE mae gennym ni gyfle yn awr i ddylanwadu ar ein cyfleoedd masnachu a buddsoddi uchelgeisiol yn Ewrop a thu hwnt, a gosod Cymru a Phrydain yn gadarn mewn lle blaenllaw yn y byd masnachu a buddsoddiad byd-eang.
Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n allforio. Yn 2016, aeth 4,000 o gwmnïau ati am y tro cyntaf i allforio i’r farchnad fyd-eang, a oedd yn werth £12.4 biliwn. Ledled y DU, mae allforion yn cyfrannu dros £570 biliwn at y Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn flynyddol.
Mae Orangebox, a sefydlwyd yn 1972, yn disgwyl gwerthiant o £60m yn 2017. Hefyd mae disgwyl y bydd y cwmni’n arbed £30k y flwyddyn yn dilyn dileu tollau Pont Hafren yn 2018.
Cynhaliwyd yr ymweliad ar ôl i Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi y bydd yn ysgrifennu at 26,000 o fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu nodi fel allforwyr posib ac y bydd yn anfon copi atynt o arweiniad allforio pwrpasol ar gyfer busnesau Cymru.
Mae Canllaw Allforio Cymru yn nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU ac mae’n cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus. Mae Alun Cairns yn gobeithio y bydd busnesau’n gweld y potensial enfawr sydd ar gael i’w helpu i fuddsoddi a thyfu.
Ychwanegodd Mr Cairns:
Ein nod ni yw dod yn genedl allforio fwyaf y byd, gan roi hwb i hyder busnesau a balchder cenedlaethol a grymuso mwy o gwmnïau Cymru i fynd allan a llwyddo mewn marchnadoedd byd eang.
Dyma pam rydyn ni’n rhannu’r cyngor, yr arweiniad a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, ac yn benodol gan yr Adran dros Fasnachu Rhyngwladol, ar gyfer busnesau yn ein Canllaw Allforio ar gyfer Cymru. Rydyn ni eisiau eu helpu i ddatblygu eu brand dramor wrth i ni barhau i gynyddu allforion o’r Deyrnas Unedig ac annog mewnfuddsoddi.
NODIADAU I OLYGYDDION
Mae gan Orangebox weithlu o 420 o bobl ar ei safleoedd yn Ystrad Mynach, Parc Nantgarw a Llundain. Mae ei gleientiaid yn amrywio o sefydliadau mawr i Adrannau Llywodraeth ac mae 78% o’i gadwyn gyflenwi yn y DU, gyda llawer o gyflenwyr allweddol yng Nghymru.