Ysgrifennydd Cymru yn dathlu busnesau newydd yng Nghymru
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cydnabod llwyddiannau eithriadol cwmnïau o Gymru yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru

Bydd Alun Cairns AS yn siarad â busnesau newydd blaenllaw yng Nghymru yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru yn Depot (15 Medi) sydd yng nghanol tirlun digidol Caerdydd.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydnabod llwyddiannau a chyfraniad eithriadol busnesau sydd ar y rhestr fer, fel Stratium Ltd, Elidir Health Ltd ac Amplyfi, at economi Cymru.
Dywedodd Alun Cairns:
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld twf eithriadol mewn busnesau newydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio’n galed i greu’r amodau priodol ar gyfer twf yng Nghymru, ac rydym ni’n falch o weld bod 31,000 yn fwy o Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru nag oedd yn 2010.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu oddeutu 1,943 o fenthyciadau – gwerth dros £15.5 miliwn – i fusnesau newydd yng Nghymru yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf, sydd wedi helpu pobl i gael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt i gymryd y cam tuag at fod yn ddynion ac yn fenywod busnes llwyddiannus.
Felly, mae’n bwysig neilltuo amser i gydnabod a dathlu’r busnesau sydd gennym ni yma yng Nghymru.
NODIADAU I OLYGYDDION:
Lansiwyd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru i gydnabod cyflawniadau’r entrepreneuriaid unigol sydd wedi gweld y cyfle ac wedi mentro i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd, ac sydd yn aml iawn yn arwyr tawel y gymuned fusnes. Bydd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2017 yn cael eu cynnal yn Depot, Caerdydd ac yn dechrau am 6:30pm.
DIWEDD