Ysgrifennydd Cymru yn croesawu dirprwyon busnes pwysig ar fwrdd llong ryfel y Llynges Frenhinol
Bydd buddsoddiad y cwmni technoleg mawr o Japan, Hitachi, yn Ynys Môn yn cael ei ddathlu ar fwrdd HMS St Albans yng Nghaergybi heddiw (12 Ebrill).
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cynnal derbyniad ar gyfer rhanddeiliaid a busnesau lleol ar fwrdd ffrigad Math 23 y Llynges Frenhinol, HMS St Albans; llong ryfel 133 metr, 4,900 tunnell a fydd yn glanio wrth borthladd Caergybi o 12 Ebrill tan ddydd Llun 15 Ebrill.
Bydd Prif Swyddog y llong, Comander Andrew Block, yn gwahodd Mr Jones ar fwrdd y llong. Bydd yn mynd ar daith breifat o amgylch y llong ac yn cael gwybod am yr hyn y mae’r llong yn gallu ei wneud, cyn croesawu ei westeion ar gyfer y derbyniad cinio ac i arddangos y llong.
Ym mis Rhagfyr dychwelodd HMS St Albans ar ôl treulio chwe mis yn y Gwlff yn cadw llygad am fôr ladron. Treuliodd 2012 yn amddiffyn dyfroedd y DU ac yn datblygu ei sgiliau hela o dan y môr yn nyfroedd yr Iwerydd. Y mis hwn, bydd y llong yn mynd i Portsmouth am flwyddyn er mwyn ei chynnal a’i chadw.
Trefnwyd y digwyddiad i ddathlu’r ffaith bod Hitachi wedi prynu Pŵer Niwclear Horizon, sy’n meddu ar yr hawliau i adeiladu adweithydd yn Wylfa, Ynys Môn.
Yn ystod ei daith masnach a buddsoddi i Asia ar ran y Prif Weinidog, cyfarfu Mr Jones â llywydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi, a Dirprwy Gadeirydd Hitachi Europe, Masaharu Hanyu, i glywed sut roedd cynlluniau i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd yn y DU yn mynd rhagddynt.
Bydd Mr Hanyu yn arwain dirprwyon Hitachi yn ôl i Gymru ar gyfer y derbyniad, ble bydd cynrychiolwyr o Ynys Ynni Ynys Môn, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Datblygu Niwclear a rhanddeiliaid lleol yn ceisio manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cadwyn cyflenwi a ddaw yn sgil gorsaf niwclear newydd yn Ynys Môn.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae’r derbyniad nid yn unig yn rhoi cyfle i ni ddathlu buddsoddiad pwysig iawn Hitachi yng Ngogledd Cymru, mae hefyd yn caniatáu i ni ddangos gwerth y Llynges Frenhinol i ni, a swyddogaeth y llong hon yn benodol, yn cadw ein dyfroedd rhyngwladol yn ddiogel.
“Mae’n bleser gennyf ddangos i Mr. Hanyu a’i gydweithwyr o Hitachi pa mor arwyddocaol yw eu buddsoddiad yn Horizon i’r economi leol a chenedlaethol.
“Bydd gorsaf niwclear newydd yn arwain at beth wmbredd o gyfleoedd yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn gyfle pwysig i greu swyddi, gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i ddatblygu rhaglenni hyfforddi, ac i fusnesau Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cadwyn cyflenwi a ddaw yn sgil Wylfa B.”