Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld a diwydiant creadigol Cymru

O’r graddedigion disglair a ddaw o’n hysgolion ffilm, i’r effaith fyd-eang y mae ein cwmniau cynhyrchu annibynnol yn ei chael, bydd Cheryl Gillan…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

O’r graddedigion disglair a ddaw o’n hysgolion ffilm, i’r effaith fyd-eang y mae ein cwmniau cynhyrchu annibynnol yn ei chael, bydd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gweld y cyfraniad y mae sector y diwydiannau creadigol yn ei wneud i economi Cymru yn ystod ei hymweliad a Chasnewydd a Chaerdydd heddiw (28 Mehefin). 

Heddiw, bydd Mrs Gillan yn ymweld ag Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol nodedig Prifysgol Casnewydd, cyn teithio i’r brifddinas i ymweld a phencadlys ITV Cymru a Boomerang Plus Plc.  Bydd ei diwrnod yn dod i ben ym Mae Caerdydd lle bydd yn cwrdd a phersonel S4C a BBC Cymru Wales yn stiwdios newydd Porth Teigr y BBC ym Mhorth y Rhath.

Yn ystod ei hymweliad a Phrifysgol Casnewydd, bydd Ysgrifennydd Cymru yn cyfarfod a darlithwyr a’r myfyrwyr sy’n dyheu am osod eu marc ar ddiwydiannau creadigol Prydain a gweddill y byd.

Bydd yn cael ei thywys o amgylch y cyfleusterau stiwdio modern, a bydd animeiddiad byr pum munud o hyd sydd wedi ennill gwobr yn cael ei ddangos iddi. Crewyd yr animeiddiad hwn gan Gemma Roberts, sydd wedi graddio o’r Brifysgol eleni.

Dywedodd yr Athro Barry Atkins, Pennaeth Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol y Brifysgol:

“Mae’n bleser gennym groesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i’r Brifysgol i weld gwaith yr Ysgol Ffilm ac i glywed yr hanes sy’n golygu bod Casnewydd yn enwog am ei rhaglenni ffilm.

“Mae llwyddiant graddedigion ffilm Casnewydd wrth greu cwmniau a llwyddo gyda gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol yn dangos pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i economi De Ddwyrain Cymru. Bydd y gallu i ddenu, hyfforddi a datblygu’r myfyrwyr hyn yn dod yn fwyfwy perthnasol i lwyddiant economaidd ehangach y rhanbarth a Chymru gyfan.”

Bydd Mrs Gillan yn cyfarfod nesaf a Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru, yn eu pencadlys yng Nghroes Cwrlwys. Yma, bydd yn cael ei thywys o amgylch y stiwdios ac yn trafod cynlluniau’r darlledwr ar gyfer rhaglenni’r dyfodol.

Yna, bydd yn cwrdd a Huw Eurig Davies, prif swyddog gweithredol Boomerang Plus Plc, sy’n creu rhaglenni adloniant, ffeithiol, chwaraeon, cerddoriaeth, drama a rhaglenni plant ar gyfer y teledu, y radio a’r we. Ym mis Rhagfyr 2011, cyhoeddodd y cwmni y byddai’n gweithio gyda Stiwdios Animeiddio Maga yn Milan i gynhyrchu cyfres newydd i blant cyn oed ysgol o’r enw Tales of Friendship with Winnie the Pooh ar gyfer sianel Disney Junior. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn 2012 mewn mwy na 21 o wledydd dros bedwar ban y byd.

 Bydd Mrs Gillan hefyd yn cyfarfod a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, wrth deithio i stiwdios newydd Porth y Rhath ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd. Mae’r stiwdios hyn yn gartref parhaol, pwrpasol, i ddramau blaenllaw y BBC fel Casualty, Doctor Who a Pobol y Cwm, sy’n cael ei dangos ar S4C, yn ogystal ag i ddrama newydd Russel T Davies i blant, Wizards Vs Aliens, a fydd yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar CBBC yn ystod tymor yr hydref.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Ni allwn ddiystyru’r cyfraniad y mae’r diwydiant creadigol yn ei wneud i economi Cymru ac i’r darlun o Gymru yn rhyngwladol.

“Mae hyder ac uchelgais y bobl dalentog hynny yng Nghymru, boed hwy’n hen law arni neu ddim ond ar ddechrau eu gyrfa, yn helpu i fwrw’r diwydiant hwn yn ei flaen gartref a thramor, gan danlinellu statws cynyddol Cymru fel magnet a chatalydd ar gyfer talent creadigol.

 ”Mae’r sector cynhyrchu annibynnol yn chwarae rhan bwysig yn ansawdd ac amrywiaeth cynnwys teledu y DU ac mae wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth dyfu marchnad allforio’r DU.”

Cyhoeddwyd ar 28 June 2012