Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Cyswllt Heathrow-Cymru yn creu cyfleoedd arwyddocaol i economi Cymru”

David Jones yn ymweld â T2 Heathrow ac yn cwrdd â Phennaeth AirAsia i drafod allforion Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David Jones with Neil Porter at the new Heathrow T2

Bydd y cyswllt rheilffordd arfaethedig, sydd werth £500 miliwn, rhwng Heathrow a de Cymru yn hwb allweddol i dwf economaidd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn ystod ymweliad â Therminws 2 newydd Heathrow cyn ei daith i Singapore.

Fis Gorffennaf y llynedd, amlinellodd Llywodraeth y DU ei hymrwymiad i gynllun Mynediad Rheilffyrdd y Gorllewin – cyswllt rheilffordd newydd â Heathrow a fydd yn tocio 30 munud oddi ar y siwrne o dde Cymru a gorllewin Lloegr. Bydd y buddsoddiad yn golygu y bydd cyswllt rhwng De Cymru a chanolbwynt awyr y DU am y tro cyntaf erioed.

Tynnodd Mr Jones sylw at y rôl hollbwysig y bydd gan y datblygiad seilwaith newydd hwn i’w chwarae yn nhwf economi Cymru, yn ystod taith o amgylch Terminws 2 newydd y maes awyr: Terminws y Frenhines, cyn cychwyn taith fasnach ar ran Llywodraeth y DU i Singapore ac Indonesia.

Terminws 2: Terminws y Frenhines, yw’r cam sylweddol nesaf yn y gwaith o weddnewid Heathrow, a bydd yn parhau â’r gwelliannau a wnaed yn y maes awyr dros y blynyddoedd diweddar gydag agor Terminws 5 ac adnewyddu Terminws 1, 3 a 4. Mae’n un o’r prosiectau adeiladu gyda nawdd preifat mwyaf yn y DU ac, erbyn agor Terminws 2 yn swyddogol ym Mehefin 2014, bydd wedi cynhyrchu £2.5 biliwn i economi’r DU – gan gefnogi 35,000 o swyddi a mwy na 140 o fusnesau.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae Cymru, fel gweddill y wlad, yn elwa ar fynediad at rwydweithiau hedfan ardderchog y DU. Mae Heathrow yn cyfrannu’n allweddol at hyn, ac roeddwn wrth fy modd â’r cyfle i weld y datblygiadau diweddaraf sy’n digwydd yn y canolbwynt economaidd pwysig hwn.

Mae cysylltiadau cyflym a chyfleus i’n prif feysydd awyr yn hollbwysig wrth i ni geisio cystadlu yn y ras fyd-eang. Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o’i gwneud hi’n haws i deithwyr ddefnyddio Heathrow, ac mae wedi ymrwymo i weithredu cynllun Mynediad Rheilffordd y Gorllewin. Bydd hyn yn creu mynediad uniongyrchol, ar drên, i Heathrow o dde Cymru a bydd yn ategu ymhellach allu Cymru i elwa o’r cyfleoedd economaidd y mae Heathrow yn eu creu.

Mae cysylltu de Cymru â phrif ganolbwynt awyr y DU yn hollbwysig i fusnesau Cymru. A bydd hefyd yn gwneud Cymru ei hun yn gyrchfan fwy deniadol i fusnesau sy’n ystyried buddsoddi yn y DU.

Dywed Colin Matthews, Prif Swyddog Gweithredol Heathrow:

Mae gan 1.3 miliwn o bobl swyddi gyda chwmni sy’n eiddo i berchnogion tramor, ac mae eu gwaith yn cael ei hwyluso gan deithio drwy Heathrow. Mae 8.8% o’r rheiny’n byw yng Nghymru, y ganran uchaf yn y DU. Bydd cyswllt Rheilffordd y Gorllewin yn gwella’r cysylltiad rhwng Cymru a Heathrow gan greu mynediad uniongyrchol i fusnesau at y canolbwynt, a sicrhau bod y genedl gyfan yn elwa o’r cyfleoedd twf a ddaw yn sgil cysylltedd byd-eang.

Mae’r cwmni o Gastell-nedd, Express Reinforcements Ltd (ERL), yn un o’r cwmnïau sy’n rhan o gadwyn gyflenwi prosiect Terminws 2. Gan weithio fel rhan o dîm integredig, llwyddodd yr arbenigwyr dur i gyflenwi dros 30,000 tunnell o gynhyrchion atgyfnerthu dur i’r prosiect. Roedd ERL, sydd â’i riant gwmni, Celsa Manufacturing, wedi’i leoli yng Nghaerdydd, hefyd yn rhan o broses adeiladu Terminws 5 Heathrow.

Hefyd, dewiswyd cwmni EvadX o Gonwy gan Siemens i ymgymryd â chontract i osod tua 700 tunnell o waith dur i gynnal y System Trin Bagiau yn y Terminws newydd. Yn ychwanegol at y pecyn hwn, gosodwyd Llawr Mesanîn, canllawiau a mwy na 100 o risiau ym mannau Cyrraedd a Gadael y Terminws newydd.

Cyn gadael am Singapore, cyfarfu Mr Jones ag Alieen Omar, Prif Swyddog Gweithredol cwmni AirAsia, ym maes awyr Changi. Yn ddiweddar, arwyddodd y cwmni hedfan rhad gontract gyda chwmni Airbus am fwy na 100 o awyrennau o’r teulu A320. Bu Mr Jones yn gweld un o’r awyrennau A320 ac yn siarad am bwysigrwydd allforion Cymru cyn hedfan i Indonesia ar adenydd Cymreig awyren Airbus.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae’r sector hedfan yn cyfrannu oddeutu £18 biliwn o allbwn economaidd i economi’r DU bob blwyddyn. Mae’n cyflogi oddeutu 220,000 o weithwyr yn uniongyrchol ac mae’n cefnogi llawer mwy drwy ei gadwyni gyflenwi. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi awyrofod y DU; tocio trethi busnes, buddsoddi mewn allforio a gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant i sicrhau ei fod wedi’i arfogi’n llwyr i gystadlu a ffynnu yn y ras fyd-eang.

Nodiadau i Olygyddion

  • Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cynrychioli Llywodraeth y DU ar daith fasnach i Singapore a Bali (5-7 Tachwedd).
  • Daw’r ymweliad yn y mis yn dilyn ymweliad yr Ysgrifennydd Gwladol â phencadlys Airbus yn Toulouse, lle gwelodd adenydd Cymreig awyren XWB A380 a’r A350 yn cyrraedd y llinell ymgynnull derfynol.
  • Yn ystod yr ymweliad hwnnw, cyhoeddodd Mr Jones lansio ail rownd y bidio ar gyfer y Rhaglen Datblygu Technoleg Awyrofod Genedlaethol, werth £40 miliwn, a ariennir gan y diwydiant a’r llywodraeth. Bydd y rhaglen hon yn helpu 100 o dechnolegau sydd â’u seiliau yn y gadwyn gyflenwi, ac sydd heb eu datblygu, i gyrraedd y farchnad er mwyn sicrhau bod y DU yn gallu parhau i gadw ei lle ar flaen y sector byd-eang.
Cyhoeddwyd ar 6 November 2013