Ysgrifennydd Cymru yn mynd i'r Unol Daleithiau a Chanada i hybu masnach a buddsoddiadau
Mae'r ymweliad hwn yn digwydd wrth i Aston Martin ailddechrau allforio i'r Unol Daleithiau, gan ddiogelu 600 o swyddi yn Sain Tathan.

Welsh Secretary Jo Stevens with Aston Martin apprentices in St Athan in May 2025
- Mae’r cytundeb a drafodwyd gyda’r Unol Daleithiau yn diogelu miloedd o swyddi gwneud ceir ac yn cefnogi twf yn niwydiant awyrofod Cymru.
- Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn Nhoronto ac Efrog Newydd i sbarduno rhagor o fewnfuddsoddiad i Gymru.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn teithio i’r Unol Daleithiau a Chanada yr wythnos hon (22-25 Gorffennaf) i hybu masnach a buddsoddiadau yng Nghymru. Mae’r ddwy wlad ymhlith y marchnadoedd pwysicaf i allforion Cymru, gyda nwyddau a gwasanaethau gwerth dros £2 biliwn yn mynd i’r Unol Daleithiau a Chanada bob blwyddyn.
Mae’r masnachu a’r buddsoddi rhwng Cymru a Gogledd America yn cefnogi dros 50,000 o swyddi yng Nghymru. Gyda’r cysylltiadau economaidd sylweddol rhwng y gwledydd, mae’r Unol Daleithiau a Chanada yn rhoi cyfleoedd gwych i fusnesau Cymru dyfu a ffynnu. Daw’r ymweliad yn dilyn llofnodi cytundeb ffyniant economaidd y DU gyda’r Unol Daleithiau ym mis Mai, gan ddiogelu busnesau a sicrhau swyddi ledled y wlad, a rhoi hwb i sectorau allweddol yng Nghymru fel dur, awyrofod, gwneud ceir a gwyddorau bywyd.
Mae’r gwneuthurwr ceir Aston Martin, sydd ag un o’i safleoedd yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg ac sy’n cyflogi o leiaf 600 o bobl, wedi ailddechrau allforio i’r Unol Daleithiau yn dilyn y cytundeb masnach llwyddiannus. Bydd Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag ystafell arddangos newydd Aston Martin yn Ninas Efrog Newydd ac yn cwrdd â’i swyddogion gweithredol.
Daw ymweliad Jo Stevens â Gogledd America ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei Strategaeth Ddiwydiannol a’i nod yw tynnu sylw at Gymru fel cyrchfan allweddol ar gyfer mewnfuddsoddiad i’r DU.
Yn ystod yr ymweliad, bydd Ysgrifennydd Cymru yn codi ymwybyddiaeth o’r Uwchgynhadledd Fuddsoddi a gynhelir ym mis Rhagfyr yng Nghymru, gan annog arweinwyr busnes a buddsoddwyr Gogledd America i gymryd rhan yn y digwyddiad.
Prif nod Ysgrifennydd Cymru yw ennyn buddsoddiad yng Nghymru, a hynny drwy ddigwyddiadau uchel eu proffil i gwrdd â busnesau a chyfarfodydd bord gron gyda buddsoddwyr ac arweinwyr diwydiant yn Nhoronto ac Efrog Newydd.
Fel rhan o’i rhaglen bydd:
-
Yn cynnal derbyniad busnes yn ystafell arddangos Aston Martin yn Ninas Efrog Newydd.
-
Yn cwrdd â busnesau allweddol o Ganada sydd â diddordeb yng Nghymru - gan gynnwys o’r sector gweithgynhyrchu ac o sectorau eraill - mewn cyfarfod bord gron yn Nhoronto.
-
Yn cael brecwast busnes gyda buddsoddwyr mewn eiddo tirol chwaraeon yn y DU yn Efrog Newydd.
Mewn sgwrs cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
> “Mae cysylltiadau economaidd a diwylliannol cryf a phwysig rhwng Cymru a Gogledd America ac mae’n wych gallu hyrwyddo’r rhain a helpu i’w cryfhau ymhellach. > > “Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud twf economaidd yn brif genhadaeth i ni ac mae ein cytundeb masnach newydd gyda’r Unol Daleithiau yn sicrhau manteision gwych i’n busnesau allweddol fel Aston Martin ac i bobl sy’n gweithio ledled Cymru. > > “Hoffwn adeiladu ar y cynnydd hwn ac yn ystod fy amser yn yr Unol Daleithiau a Chanada byddaf yn trafod cyfleoedd pellach ar gyfer buddsoddi yng Nghymru gyda chwmnïau fel Aston Martin. > > “Mae fy neges yn gwbl glir - mae Cymru ar agor i fasnachu.
Meddai Dirprwy Gomisiynydd Masnach Gogledd America, Alan Gogbashian:
O gwmnïau’r economi chwaraeon i’r diwydiant modurol, mae gan Gymru rôl allweddol yn economi’r DU, ac mae ganddi gysylltiadau masnach a buddsoddi cadarn gyda Chanada a’r Unol Daleithiau.
Mae’n wych cael croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Efrog Newydd a Thoronto yr wythnos hon i gysylltu â busnesau fel Aston Martin sy’n masnachu ar draws yr Iwerydd ar hyn o bryd, a chael cwrdd â buddsoddwyr posibl cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi yng Nghymru yn ddiweddarach eleni.
Mae amserlen Ysgrifennydd Cymru hefyd yn cynnwys derbyniad yn Nhoronto gyda grwpiau busnes a grwpiau diwylliannol sydd â diddordeb yng Nghymru a chyfarfodydd gyda buddsoddwyr unigol yng Nghymru fel Vale Mining.
Mae Ysgrifennydd Cymru yn teithio i Doronto ddydd Mawrth, 22 Gorffennaf ac yna i Ddinas Efrog Newydd cyn dychwelyd i’r DU ar 25 Gorffennaf.