Ysgrifennydd Cymru yn clodfori cwlwm Cymru-Singapore
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cloi ei chenhadaeth fasnach a diplomyddol bum niwrnod i Dde Ddwyrain Asia ag ymweliad …

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cloi ei chenhadaeth fasnach a diplomyddol bum niwrnod i Dde Ddwyrain Asia ag ymweliad a chwmniau sy’n chwifio baner masnach a diwydiant Cymru yn Singapore.
Ymwelodd Mrs Gillan a Champws Seletar Rolls Royce, sy’n cyflenwi peirannau’r rhan fwyaf o gwmniau hedfan masnachol, gyda chydrannau allweddol gan gyflenwyr o Gymru. Yma, cyfarfu a Jonathan Asherson OBE, cyfarwyddwr rhanbarthol y cwmni yn Ne Ddwyrain Asia, a ymunodd a hi ar daith dywys o amgylch y cyfleuster llafnau ffannau.
Yn ystod ei hymweliad, cyfarfu Mrs Gillan hefyd ag Aelodau Seneddol Singapore, aelodau o Gymdeithas Dewi Sant a chynrychiolwyr cwmniau o Gymru sydd a phresenoldeb amlwg yn Singapore.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae ymweld a Singapore, cartref Rolls Royce yn Asia, yn rhoi pleser mawr i mi, ac rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i gwrdd a chynrychiolwyr y cwmniau Cymreig niferus sy’n gwneud eu marc ym marchnad Singapore.
“Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod Rolls Royce yn parhau i fod yn chwaraewr cryf a gwerthfawr yn y diwydiant aerofod byd-eang. Yr wyf yr un mor falch bod eu cyfleuster llafnau ffannau yn Singapore yn defnyddio cydrannau sy’n dod yn uniongyrchol o Gymru.
“Yn ogystal a’n dylanwad cryf ar y diwydiant aerofod, roedd cynhyrchion bwyd a diod o Gymru hefyd yn cyfrif am £10.2 miliwn o allforion i ardal Cefnfor Asia y llynedd, ac rwy’n gobeithio y bydd fy ymweliad yn rhoi anogaeth bellach i fasnachu a buddsoddi yn y diwydiant pwysig hwn.”
Wrth drafod ei thaith wythnos o hyd, a oedd hefyd yn cynnwys ymweliadau a Thailand a Chambodia, ychwanegodd Mrs Gillan:
“Mae’r holl wledydd yr ymwelais a hwy yr wythnos hon yn cynnig cyfleoedd aruthrol i fusnesau yng Nghymru. Mae’r cysylltiadau rhyngom eisoes yn gryf iawn, ond rwy’n siŵr bod yr ymweliad hwn wedi bod yn gyfle i ni gryfhau, ac adeiladu ar y berthynas honno.
“Mae gan fusnesau Cymru gymaint i’w gynnig i wledydd De Ddwyrain Asia fel sydd ganddynt hwythau i’w gynnig i ni. Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i feithrin y cysylltiadau hyn, yn y gobaith o ysgogi cysylltiadau busnes, addysg a diwylliannol pellach.”