Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn falch o gyfraniad Cymru i Gemau Llundain 2012

Daeth yr haf a fu’n fwrlwm o chwaraeon i ben neithiwr wrth i Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ddod i ben. Disgwylir y bydd degau o filoedd …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Daeth yr haf a fu’n fwrlwm o chwaraeon i ben neithiwr wrth i Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ddod i ben.

Disgwylir y bydd degau o filoedd o bobl ar strydoedd Llundain yn nes ymlaen heddiw i wylio ser y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd o Brydain yn gorymdeithio i ddathlu eu llwyddiant.

Bydd athletwyr o Gymru a oedd yn aelodau o Dim Prydain Fawr y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn eu mysg. Fe wnaeth pob un ohonynt eu rhan wrth gyfrannu at y llu o fedalau a enillodd Prydain Fawr.

Mae athletwyr Olympaidd Cymru yn dathlu eu Gemau mwyaf llwyddiannus ers dros 100 mlynedd, gan ddychwelyd adref gyda chasgliad o 7 o fedalau. Cafodd 38 o athletwyr le yn sgwad Prydain Fawr y Gemau Paralympaidd yn 2012 - sy’n record o ran niferoedd - gan ennill 15 o fedalau, a gwella ar y nifer o 14 a enillwyd yn Beijing yn 2008.

Wrth longyfarch y garfan o Gymru ar eu llwyddiant, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

“Rwy’n hynod falch o rol athletwyr Cymru a fu’n rhan o Dimau Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012. Maen nhw wedi gwneud yn well na’r hyn roedden ni’n ei ddisgwyl. Maen nhw wedi gwneud yn andros o dda - yn well na nifer o’r gwledydd mwy hyd yn oed. Maen nhw wirioneddol yn ysbrydoledig.

“Rwy’n edrych ymlaen at eu croesawu i Swyddfa Cymru yn fuan iawn.”

Cyhoeddwyd ar 10 September 2012