Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n llongyfarch yr unigolion arbennig yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Alun Cairns: "Falch o weld pobl o Gymru, o bob cefndir, yn cael eu cydnabod heddiw".

Honours

Queen's Birthday Honours

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi llongyfarch y bobl o Gymru sy’n derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2018.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Pleser o’r mwyaf gen i yw llongyfarch y rheini sydd wedi cael eu cydnabod yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Mae’r anrhydeddau hyn yn cydnabod llwyddiannau anhygoel unigolion eithriadol sy’n gweithio’n ddiflino i wella bywydau pobl eraill ac i ysbrydoli’r rheini sydd o’u cwmpas.

Rwy’n falch o weld pobl o Gymru, o bob cefndir, yn cael eu cydnabod am eu llwyddiannau, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i’w cymunedau. Llongyfarchiadau i chi i gyd.

Cyhoeddwyd ar 8 June 2018