Ysgrifennydd Cymru’n llongyfarch yr unigolion arbennig yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines
Alun Cairns yn llongyfarch y bobl o Gymru sy’n derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’n bleser gen i estyn llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi cael ei gydnabod yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Mae enwau’r bobl hynny sy’n gweithio’n ddiflino ac yn ddiwyd yn eu cymunedau yn cael eu rhestru heddiw ochr yn ochr â sêr y celfyddydau a chwaraeon, ac fe allant fod yn falch iawn o’r hyn maent wedi’i gyflawni.
Mae bob amser yn galonogol iawn clywed am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y rheini sy’n cael eu hanrhydeddu, a gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y maent yn ei wneud i’n cenedl. Rydw i’n falch dros ben o allu diolch iddynt a’u llongyfarch i gyd”.