Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn canmol yr “ymdrech gymunedol ffantastig” ar ôl y llifogydd yng Ngogledd Cymru.

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymweld ag ardaloedd yng Ngogledd Cymru heddiw, dydd Iau 29ain Tachwedd, a oedd wedi dioddef…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymweld ag ardaloedd yng Ngogledd Cymru heddiw, dydd Iau 29ain Tachwedd, a oedd wedi dioddef oherwydd y llifogydd.

Cafodd yr ymweliad ei drefnu gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac roedd yn golygu bod Mr Jones yn gallu gweld a’i lygaid ei hun y cymorth sydd ar gael i drigolion sydd wedi dioddef oherwydd y llifogydd diweddar yng Ngogledd Cymru yng nghymunedau Llanelwy, Rhuddlan, Llanfair Talhaearn ac Ystad Glastir yn Rhuthun.

Wrth siarad ar ol yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:

“Mae’r ymdrech gymunedol ffantastig wedi cael argraff fawr arnaf fi, o archfarchnadoedd yn rhoi bwyd, elusennau’n cynnig dillad a swyddogion awdurdodau lleol wrth law i roi cyngor. Er bod y llifogydd wedi cael effaith ofnadwy ar gartrefi pobl, mae’n amlwg bod y cymunedau’n dod ynghyd i ddod drwy hyn.

“Roedd fy ymweliad heddiw yn gyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud a hyn a sicrhau fy hun bod help yn cael ei roi i’r rheini mewn angen. Mae’r gwasanaethau brys ac asiantaeth arall, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, wedi gwneud gwaith eithriadol o dda. Rwyf yn ddiolchgar iddynt ac yn gwybod eu bod i gyd wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dysgu o bob digwyddiad llifogydd a sicrhau bod ein systemau rhybuddio’n cael eu mireinio.”

Cyhoeddwyd ar 29 November 2012