Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r ystadegau cyflogaeth diweddaraf yn ochelgar

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi rhoi croeso gochelgar i Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur a gafodd eu cyhoeddi heddiw…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi rhoi croeso gochelgar i Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur a gafodd eu cyhoeddi heddiw. Maent yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n gweithio yng Nghymru a gostyngiad parhaus yn y gyfradd a’r lefel anweithgarwch economaidd yng Nghymru.

Mae’r ffigurau ar gyfer y tri mis o fis Rhagfyr 2010 i fis Chwefror 2011 yn dangos bod lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi codi yn y chwarter diwethaf i 1.334miliwn, sef cynnydd o 2,000.

Yn y cyfamser, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gostwng  i 25.7%, sef gostyngiad o 0.5% o’i gymharu a’r chwarter diwethaf, a disgynnodd y lefel anweithgarwch economaidd i 487,000 o’i gymharu a’r tri mis blaenorol, sef gostyngiad o 9.000.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Rwy’n croesawu’r cynnydd yn nifer y bobl mewn gwaith a’r gostyngiad yn y gyfradd anweithgarwch economaidd. Fodd bynnag, mae’r cynnydd bach mewn diweithdra’n awgrymu bod yr adferiad economaidd dal yn fregus. 

“Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus er gwaethaf yr arwyddion addawol hyn, gan fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod angen i ni ddwysau’r ymdrech i stopio’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n ddi-waith.  Dyna pam mae angen i ni weithio gyda’n gilydd ar draws llywodraethau i fynd i’r afael a hyn. Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU gyfrifoldeb dros greu’r amodau cywir ar gyfer twf economaidd, buddsoddi a swyddi yng Nghymru, a byddwn yn parhau i anfon neges glir ei bod yn werth gweithio.”

Cyhoeddwyd ar 13 April 2011