Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn mentro i linell gychwyn Marathon Llundain am y 6ed tro

Alun Cairns yn paratoi i rhedeg strydoedd y brifddinas ar ddydd Sul.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn estyn ei esgidiau rhedeg i gymryd rhan ym Marathon Llundain am y chweched tro ddydd Sul yma (23 Ebrill) wrth iddo baratoi i redeg y cwrs 26.2 milltir o amgylch y brifddinas.

Mr Cairns oedd yr AS cyntaf i groesi’r llinell derfyn yn 2014 (3:34:16), 2015 (3:38:25) ac eto yn 2016, gan sicrhau ei amser personol gorau o 3:28:02 a’i osod yn seithfed safle rhestr yr holl ASau sydd wedi rhedeg y Marathon erioed.

Dywedodd Alun Cairns:

Bydd pawb sy’n mentro i’r strydoedd i redeg Marathon Llundain yn gwneud hynny am resymau cwbl unigol. Boed hynny i gael amser personol gorau, i godi arian ar gyfer achos da, i gofio am rywun annwyl, neu dim ond i wireddu breuddwyd, bydd yn rheswm a fydd wedi bod yn ffynhonnell gyson o gymhelliant iddynt yn ystod y misoedd oer, caled hynny o hyfforddi!

Fis ar ôl yr ymosodiadau ar San Steffan, byddwn yn gweld miloedd o bobl yn llenwi strydoedd Llundain, pob un ohonynt yn cefnogi’r rheini sy’n cymryd rhan ac yn symbol o feddylfryd y genedl hon na wnawn byth ildio i derfysgaeth na newid ein ffordd o fyw.

Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r miloedd o redwyr fydd yn cymryd rhan - i ddathlu dinas Llundain, i godi arian at ddau achos da - ac efallai rhedeg fy amser personol gorau wrth wneud hynny!

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd Mr Cairns yn codi arian ar gyfer dwy elusen yn 2017. Mae Heads Together yn grŵp o elusennau iechyd meddwl sy’n gweithio i gael gwared â’r stigma ynghylch materion iechyd meddwl. Bydd hefyd yn codi arian i Age Connects ym Mro Morgannwg.

  • I gyfrannu, ewch i dudalen Virgin Money Giving

Cyhoeddwyd ar 19 April 2017