Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Dyfodol disglair i ddiwydiant niwclear y DU

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn tanlinellu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i’r diwydiant niwclear yn ystod ei ymweliad a…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn tanlinellu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i’r diwydiant niwclear yn ystod ei ymweliad a gorsaf bŵer Wylfa yn Ynys Mon heddiw (13 Medi 2012). 

Yn ystod ei ymweliad cyntaf a’r safle ers ei ddyrchafiad i’r Cabinet, bydd Mr Jones yn datgan bod pŵer niwclear yn parhau i chwarae rol hanfodol yng nghymysgedd ynni’r DU, ac y byddai gorsaf newydd yn Ynys Mon yn rhoi hwb economaidd gwirioneddol i Ogledd Cymru.

Cyhoeddodd RWE Npower ac E.ON nad oeddent am fuddsoddi mewn ynni Niwclear yn y DU am resymau masnachol yn gynharach ym mis Mawrth eleni. Ers hynny, maent wedi bod yn gweithio gyda’u ymgynghorwyr gwerthu, Nomura, i sicrhau prynwyr newydd.

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd Mr Jones:

“Mae’r llywodraeth yn dal i fod wedi ymrwymo’n llwyr yn ei hymdrechion i sicrhau bod yr amodau’n iawn ar gyfer buddsoddi mewn pŵer niwclear yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd. Mae Wylfa yn gyfle rhagorol, parod, i gwmniau newydd ymuno a’r farchnad honno.

“Ers i mi ddechrau yn fy swydd fel Ysgrifennydd Gwladol, rwyf wedi dweud yn glir mai sicrhau twf economaidd i Gymru ydi fy mlaenoriaeth i. Mae sicrhau dyfodol niwclear newydd yn Wylfa yn rhan hanfodol o’r ymdrech yma.

“Er ein bod yn siomedig bod RWE ac E.ON wedi tynnu’n ol, ni ddylen ni weld hyn fel arwydd bod adfywiad economaidd niwclear y DU mewn perygl. Mae safle Horizon yn Wylfa yn gyfle da iawn i rywun fuddsoddi, ac mae yna gryn ddiddordeb yn y safle yn dal i fod.

“Mae gennyn ni bopeth i’w ennill o gael buddsoddiad yn Wylfa.  Mae yna gyfoeth o arbenigedd a gwybodaeth am y maes niwclear yma, ac rydyn ni am gadw a defnyddio hynny ar gyfer y dyfodol. Mae’r cyfleoedd yn ardderchog, ac rwy’n gobeithio y gallwn ni ddal i symud ymlaen fel rydyn ni wedi’i wneud hyd yma.”

Cyhoeddwyd y mis diwethaf y bydd Wylfa yn gallu cynhyrchu trydan am ddwy flynedd arall ar ol cael caniatad i symud tanwydd.

Dywedodd Stuart Law, Cyfarwyddwr y Safle yn Wylfa: 

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi dod i’n gweld ni ar amser mor bwysig i Wylfa. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio tuag at gynhyrchu hyd at fis Medi 2014, ac rydyn ni’n falch o’r cyfle i ddangos i randdeiliaid sut gynnydd rydyn ni wedi’i wneud a gwaith caled ac ymrwymiad pawb yma ar y safle.”

Nodiadau i Olygyddion

 *         I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a Lynette Evans yn Swyddfa Cymru ar lynette.evans@walesoffice.gsi.gov.uk / 029 2092 4204

 *         I gael rhagor o wybodaeth am Wylfa, cysylltwch a Lowri Jones, Swyddog Cyfathrebu Wylfa ar 01407 733558

 *         Yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), a ffurfiwyd yn 2005, sy’n gyfrifol am  sicrhau bod safleoedd niwclear sector cyhoeddus sifil yn cael eu datgomisiynu a’u clirio yn ddiogel, yn gost-effeithiol ac mewn modd sy’n ystyriol o’r amgylchedd.  

*         Magnox Limited yw Cwmni Trwydded y Safle sy’n gyfrifol, dan gontract i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, am reoli a gweithredu’r 10 o safleoedd adweithyddion,  gan gynnwys Wylfa.

 *         Wylfa, yw’r safle adweithydd Magnox sydd ar ol sydd yn dal i gynhyrchu yn y DU, ac mae wedi bod yn cynhyrchu trydan er 1971.  I gael rhagor o wybodaeth am faint mae Wylfa’n ei gynhyrchu bob dydd, ewch i www.magnoxsites.com/remit

Cyhoeddwyd ar 13 September 2012