Ysgrifennydd Cymru: Datblygiad Friar’s Walk yn ‘newyddion gwych i Gasnewydd’
Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y cyhoeddiad bod cynghorwyr Casnewydd wedi cymeradwyo cynlluniau i adfywio Sgwar…

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y cyhoeddiad bod cynghorwyr Casnewydd wedi cymeradwyo cynlluniau i adfywio Sgwar John Frost yng nghanol y ddinas.
Bydd datblygiad Friar’s Walk, sydd werth £100m, yn cynnwys canolfan siopa, sinema a thai bwyta newydd a bydd yn creu dros fil o swyddi newydd yn yr ardal.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion gwych i Gasnewydd.
“Bydd hyn yn golygu newid mawr i’r ddinas ac mae’n hanfodol er mwyn creu cyfleoedd cyflogaeth a chynnal busnesau bach a chanolig eu maint.
“Gobeithio y bydd y datblygiad newydd hwn yn gatalydd i ddenu rhagor o fuddsoddiad o’r sector preifat i Gasnewydd, er mwyn helpu i greu economi gryfach, hybu busnesau lleol a chefnogi swyddi. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau newydd cyffrous hyn yn dwyn ffrwyth.”