Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: Busnesau Twf Cyflym 50 yn cyflawni dros Gymru

David Jones yn ymweld â busnesau sy’n gwneud eu marc ar restr Twf Cyflym 50 eleni

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Cymru, David Jones yn nodi cyflawniadau entrepreneuriaid busnes sy’n helpu economi Cymru o achubiaeth i adferiad yng ngwobrau Twf Cyflym 50 heno (04 Hydref 2013).
Bydd Mr Jones yn traddodi’r brif araith yn y 15fed cinio gala yng Nghaerdydd, ble bydd goreuon entrepreneuriaeth Cymru a’r busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru’n cael sylw. Ers ei sefydlu ym 1999, mae 470 o gwmnïau wedi’u cynnwys ar y pymtheg rhestr Twf Cyflym 50, gan greu dros 25,000 o swyddi a chynhyrchu trosiant o £14 biliwn ar gyfer economi Cymru bob blwyddyn.

Meddai Mr Jones, a draddododd ei araith gyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn seremoni’r llynedd:

“Mae seremoni Twf Cyflym 50 yn ddyddiad pwysig iawn yng nghalendr busnes Cymru. Mae’n gyfle gwerthfawr i edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd wedi mynd heibio, ac i ddathlu’r llwyddiannau niferus y mae busnesau wedi gweithio mor ddiflino i’w cyflawni.

“Mae’r ffordd y mae cwmnïau Cymreig wedi adweithio ac arloesi yn wyneb yr hyn a fu’n amodau economaidd anodd yn rhywbeth sydd wedi gwneud argraff ddofn arnaf.

“Fodd bynnag, wrth i ni edrych ymlaen at ddod at ein gilydd i ddathlu pymthegfed blwyddyn y gwobrau Twf Cyflym 50, gallwn ddweud yn hyderus bod arwyddion calonogol ar y gorwel. Mae’r economi’n tyfu ac mae’r arwyddion o hyder busnesau a gweithgarwch y dyfodol yn cryfhau.

“Fel Llywodraeth, rydym am wneud mwy i sicrhau bod busnesau Cymreig yn manteisio ar bob cyfle sydd ar gael i dyfu ac i ehangu i farchnadoedd newydd. Mae gan Fasnach a Buddsoddi y DU (UKTI), sydd â chynrychiolaeth ym mhob rhan o’r byd, ran bwysig i’w chwarae yn y broses hon.
“Mae UKTI yn adnodd gwerthfawr i fusnesau ym mhob cwr o’r DU, gan gynnwys Cymru. Bydd gwireddu potensial y cwmnïau fel y rhai rydym yn ymweld â hwy heddiw yn allweddol i sicrhau adferiad cynaliadwy.”

Meddai’r Athro Dylan Jones-Evans, sy’n gyfrifol am greu Twf Cyflym 50: “Yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, mae’r prosiect Twf Cyflym 50 wedi hyrwyddo achos cwmnïau Cymreig drwy dynnu sylw at y rhai hynny sydd wedi ehangu eu busnesau’n llwyddiannus, ac sydd wedi cael eu profi ar y llwyfan pwysicaf oll, y farchnad.

“Rwyf yn edrych ymlaen at weithio â Swyddfa Cymru yn ystod y deuddeng mis nesaf i greu cysylltiadau rhwng y cwmnïau Twf Cyflym 500 a chyfleoedd ar lefel Llywodraeth y DU”

Cyn y seremoni wobrwyo, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â thri chwmni yn y De, sydd i gyd yn gwneud cyfraniad pwysig at economi Cymru.

Mae Retail Merchandising Services (RMS) a Smart Solutions wedi’u lleoli ym Marc Busnes Langstone yng Nghasnewydd, ac mae ACT Training yng Nghaerdydd ac mae’r tri ohonynt ar restr Twf Cyflym 50 eleni, a byddant ymhlith y rhai a fydd yn gobeithio ennill gwobr yn y seremoni heno.

Mae RMS yn arbenigo mewn adnewyddu siopau, gan gynnwys ffitio siopau, dylunio, brodwaith a phaentio, nwyddau, a rheoli prosiectau. Bydd Mr Jones yn cwrdd â’r rheolwr gyfarwyddwr, Peter O’Toole a fydd yn amlinellu portffolio cynyddol ei gwmni o gleientiaid sy’n cynnwys B&Q, Tesco a Waitrose.

Bydd wedyn yn ymweld â Smart Solutions, cwmni recriwtio ac allanoli, ble bydd yn agor y ganolfan hyfforddi newydd yn Nhŷ Raleigh yn swyddogol. Mae Smart Solutions yn cynnig atebion hyblyg a pharhaol i fusnesau o bob math o sectorau ledled y DU. Mae’r cwmni wedi’i restru fel un o 300 busnes gorau Cymru ac mae wedi ymddangos ar restr Twf Cyflym 50 yn ddi-dor ers pedair blynedd. Mae bellach yn cyflogi 120 o bobl ac mae’n delio â dros 3000 o staff hyblyg y dydd. Bydd Mr Jones wedyn yn teithio i Gaerdydd i ymweld ag ACT Training, un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru. Sefydlwyd y cwmni ym 1988 gyda dim ond 12 aelod o staff, ac erbyn hyn mae ACT yn cyflogi dros 200 o bobl, gan hyfforddi hyd at 7000 o ddysgwyr y flwyddyn. Bydd Mr Jones yn ymweld ag Academi Ocean Park y cwmni yng Nghaerdydd, sy’n cynnig dewis arall i bobl ifanc 14 oed a throsodd sydd wedi dadrithio ag addysg prif ffrwd.

Ychwanegodd Mr Jones: “Dim ond syniad y mae’r cwmnïau rwyf yn ymweld â hwy heddiw’n ei roi i ni o’r rhai sy’n parhau i gyflawni dros Gymru. Maent yn parhau i ehangu, maent yn creu swyddi ac maent yn cryfhau economi Cymru ar gyfer y dyfodol. Hoffwn longyfarch pob un o fuddugwyr Twf Cyflym 50 eleni. Maent yn llawn haeddu eu gwobrau.”

NODIADAU I OLYGYDDION: Am ragor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i: www.fastgrowth50.com

Cyhoeddwyd ar 4 October 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 October 2013 + show all updates
  1. Adding translation

  2. First published.