Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn annog myfyrwyr Caerdydd i ystyried gyrfaoedd yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd

Bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld a Phrifysgol Caerdydd heddiw [dydd Mercher 16 Chwefror] gyda David Lidington, Gweinidog…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld a Phrifysgol Caerdydd heddiw [dydd Mercher 16 Chwefror] gyda David Lidington, Gweinidog Ewrop, i annog myfyrwyr i ystyried gyrfa yng Ngwasanaeth Sifil yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd fyfyrwyr gipolwg ar sut beth yw gweithio ym Mrwsel a chawsant wybod pam ei bod yn bwysig bod Cymru a’r DU yn cael eu cynrychioli yng Ngwasanaeth Sifil yr Undeb Ewropeaidd.

16 Mawrth yw’r dyddiad ar gyfer dechrau derbyn ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth nesaf yr Undeb Ewropeaidd, sef yr arholiad i ymuno a Gwasanaeth Sifil yr Undeb Ewropeaidd.  Diolch i system recriwtio wedi’i diwygio, gall israddedigion ar eu blwyddyn olaf nawr gyflwyno cais, ac mae’r broses recriwtio wedi cael ei chwtogi i oddeutu naw mis.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Gyda’r mis yma wedi’i glustnodi fel Mis Gyrfaoedd yr Undeb Ewropeaidd mae’n hollol addas ein bod yn tynnu sylw at fanteision lu gweithio yng Ngwasanaeth Sifil yr Undeb Ewropeaidd i raddedigion ac i Gymru.  Mae arnom angen gweision sifil yng nghalon Ewrop sy’n siarad ar ran fuddiannau Cymru.  Caiff y DU ei thangynrychioli yng Ngwasanaeth Sifil yr Undeb Ewropeaidd wrth ei chymharu ag aelod-wladwriaethau eraill ac mae arnom angen unioni’r sefyllfa hon.

“Mae gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil Ewropeaidd yn cynnig cyfle gwych i raddedigion ehangu eu sgiliau a’u profiadau o fywyd - ac wedyn, mewn nifer o achosion bydd modd dod a’r cyfoeth hwnnw o brofiadau newydd yn ol i Gymru.  Mae’r swyddi hyn yn gyfleoedd unigryw a byddwn yn annog unrhyw raddedigion sydd a diddordeb yn yr Undeb Ewropeaidd i dderbyn y sialens o ddilyn gyrfa ym Mrwsel.”

Dywedodd David Lidington, Gweinidog Ewrop:  “Mae ar yr Undeb Ewropeaidd angen gweision sifil cyffredinol o ystod eang o gefndiroedd academaidd, yn ogystal ag arbenigwyr megis cyfreithwyr, economegwyr, archwilwyr, cyfieithwyr ac ystadegwyr.  O’r cychwyn cyntaf mae’r gyrfaoedd hyn yn llawn gwaith difyr a heriol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn:  llunio’r polisiau, creu’r ddeddfwriaeth a negodi’r atebion sy’n creu’r penawdau ar draws Ewrop bob dydd.  Rwyf yn annog yr holl fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol a allai fod a diddordeb mewn gyrfa yn yr Undeb Ewropeaidd i ymweld a’n gwefan.”

Caiff Mis Gyrfaoedd yr Undeb Ewropeaidd ei gefnogi drwy lansio gwefan newydd sy’n cynnwys awgrymiadau, fideos, astudiaethau achos, blogiau a gwybodaeth ddefnyddiol am yrfaoedd yng Ngwasanaeth Sifil yr Undeb Ewropeaidd.  I gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yng Ngwasanaeth Sifil yr Undeb Ewropeaidd, tarwch olwg ar www.telegraph.co.uk/telegraph.

Cyhoeddwyd ar 16 February 2011