Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Ffigurau diweithdra’n dangos arwyddion adferiad calonogol

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu cyhoeddi Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur heddiw sy’n dangos mai yng Nghymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu cyhoeddi Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur heddiw sy’n dangos mai yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd gyflogaeth drwy’r Deyrnas Unedig yn y tri mis diwethaf.

Dengys y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y lefel gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 40,000 dros y chwarter diwethaf i 1.377 miliwn, a bod y gyfradd gyflogaeth hefyd wedi cynyddu 1.6 y cant - y cynnydd mwyaf ymhlith yr holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 7,000 dros y chwarter diwethaf ac er bod y nifer sy’n hawlio budd-daliadau wedi cynyddu ychydig, ni newidiodd y gyfradd, sef 5.5 y cant.

Gan groesawu’r ystadegau diweddaraf, dywedodd Mr Jones:

” Mae’r ffigurau heddiw’n dangos bod y sector preifat yn dechrau cryfhau, a bod busnesau yng Nghymru’n gwneud camau breision ar lwybr adferiad.
“Yn ystod fy mis cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol, rwyf wedi achub ar bob cyfle i gyfarfod a chynrychiolwyr busnesau, yn fawr ac yn fach, ym mhob cwr o’r wlad. Mae arweinwyr byd busnes yn dweud wrthyf fod ganddynt hyder newydd ac, er bod y sefyllfa’n anodd o hyd, eu bod ar y cyfan yn cael eu calonogi gan yr arwyddion cadarnhaol yn yr economi.

“Serch hynny, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau.  Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n hawlio budd-daliadau’n galonogol, ond mae diweithdra’n dal yn ystyfnig o uchel yn eu plith. Mae hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i bob lefel o’r Llywodraeth gydweithio er mwyn creu’r amgylchedd iawn i fusnesau fuddsoddi a thyfu.

“Rydym ni’r llywodraeth yn dal i sefydlu’r mecanweithiau ar lawr gwlad i helpu i feithrin y math hwn o amgylchedd. Rydym yn ceisio gwneud y system drethu’n deg ac yn gystadleuol ac rydym yn cael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen sydd, yn ol busnesau bach, yn eu hatal rhag creu swyddi newydd.
“Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw hefyd y bydd mwy o bobl sy’n chwilio am waith yn gallu cael gafael ar help i sefydlu eu busnesau eu hunain o dan y cynllun Lwfans Menter Newydd.

“Bydd y cynllun, sy’n cynnig anogaeth arbenigol a chefnogaeth ariannol i gyw entrepreneuriaid yn cael ei ymestyn a’i gwneud yn haws. Bydd pobl yn awr yn gallu cael gafael ar gymorth ar unwaith pan fyddant yn hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith, ac ni fydd yn rhaid iddynt dreulio chwe mis bellach ar fudd-daliadau cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer arian i gychwyn busnes. Ers ei ledaenu yng Nghymru ym mis Mehefin 2011, mae 790 o bobl wedi cael eu paru a mentor ac mae 490 o bobl wedi elwa o’r cymorth ariannol.”

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Mae’r cofnod diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn cyfri’r nifer sy’n ddi-waith ac sy’n dymuno cael swydd, sydd wedi mynd ati’n frwd i geisio gwaith yn ystod y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; yn ogystal a’r rheini sy’n ddi-waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy’n disgwyl dechrau yn y pythefnos nesaf.

 

  • Mae cyhoeddiad heddiw ynglŷn ag estyn y Lwfans Menter Newydd yn golygu y bydd 33,000 o leoedd ychwanegol ar gael ar elfen fentora’r cynllun. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn creu hyd at 40,000 o fusnesau newydd drwy’r Lwfans Menter Newydd erbyn diwedd 2013.

 

  • Ar hyn o bryd, rhaid i bobl ddisgwyl 13 wythnos cyn iddynt fod yn gymwys i’w cyfeirio i gam mentora’r Lwfans Menter Newydd - gellir manteisio ar y cymorth ariannol sydd ar gael o dan y cynllun ar ol 26 wythnos. Mae’r cyhoeddiad heddiw’n golygu y bydd ceiswyr gwaith yn gallu manteisio ar y cymorth mentora a’r cymorth ariannol o’r diwrnod cyntaf pan fyddant yn hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith. Yn ogystal a hynny, mae’r dyddiad cau ar gyfer cyfeirio pobl o’r newydd wedi’i ymestyn o fis Mawrth 2012 i fis Rhagfyr 2013, a fydd yn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad i greu hyd at 40,000 o fusnesau newydd.
  • Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol, rhaid i hawlwyr ddangos bod eu syniad busnes yn hyfyw. Mae’r cymorth ariannol yn cynnwys lwfans wythnosol sy’n daladwy dros 26 wythnos ac yn werth hyd at £1,274. Os oes angen cyfalaf cychwyn arnynt, gallant hefyd wneud cais am fenthyciad heb ei sicrhau o hyd at £1,000 i’w helpu gyda’u costau cychwyn, megis prynu’r offer i ddechrau. Dim ond pan fydd ganddynt gynllun busnes sydd wedi’i gymeradwyo gan y bartneriaeth fentora y caiff pobl fanteisio ar lwfans a benthyciad o dan y cynllun newydd. Hefyd, er mwyn iddynt fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid iddynt gau eu hawliad am y Budd-dal Ceisio Gwaith a rhoi tystiolaeth eu bod wedi dechrau masnachu.

 

Cynllun y Lwfans Menter Newydd - Astudiaethau Achos - Cymru

Lluniau Llawen!

Roedd Tony Batey wedi breuddwydio erioed am ddod yn ffotograffydd ers i’w dad-cu roi ei gamera cyntaf iddo pan oedd yn wyth oed.

Bymtheg mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae Tony, o Landaf, o’r diwedd yn gwireddu ei freuddwyd drwy roi’r gorau i’w swydd “ddiflas” ym maes logisteg cerbydau a dod yn ffotograffydd proffesiynol.

Mentrodd Tony lamu i fyd hunangyflogaeth gyda chymorth cynllun Lwfans Menter Newydd y Llywodraeth. Fe’i lansiwyd ym mis Gorffennaf 2011 ac mae’r cynllun yn cynnig cyngor ymarferol a chymorth ariannol i gyw entrepreneuriaid i’w helpu i fentro i hunangyflogaeth gynaliadwy.

“Roeddwn i’n cerdded drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn edrych o gwmpas ar y golygfeydd ac ar harddwch byd natur Cymru pan wawriodd arna’i yn sydyn y gallwn droi fy niddordeb yn swydd fy mreuddwydion. Drwy gael cymorth gan y Lwfans Menter Newydd, rwyf wedi gallu gwireddu fy mreuddwyd.”

Cafodd Tony gymorth i ddechrau ei fusnes gan y cynllun Lwfans Menter Newydd sy’n cael ei ddarparu gan y darparwr gwasanaethau cyhoeddus A4e yng Nghymru.

“Roedd yr help ges i gan fy nghynghorwyr yn A4e, Tracey a Dan, yn amhrisiadwy Mi lwyddon nhw i sicrhau bod yr olwynion yn troi mor gyflym; ychydig ddiwrnodau ar ol inni gyfarfod, roedd fy musnes wedi’i sefydlu ac ar waith.” Esboniodd Tony:

“I mi, roedd yn bwysig cael y cymorth, yn ariannol ac yn emosiynol, i wybod y byddwn i’n gallu cadw fy musnes fy hun a chreu diddordeb yn fy ffotograffau.”

Un o blith nifer o gynlluniau Cael Prydain i Weithio yw’r Lwfans Menter Newydd a’u nod yw brwydro yn erbyn tlodi, cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed, a helpu pobl i chwalu cylch dibyniaeth ar fudd-daliadau.

“Rwy’n meddwl y bydd angen tua blwyddyn cyn imi allu dibynnu’n llwyr ar fy musnes. Feddylies i erioed y byddwn i’n dweud mai fy niddordeb oedd fy unig fara menyn. Rwyf wedi gwerthu printiau yn Wiltshire yn ogystal a delweddau o Rali Cymru GB, ac ychydig fisoedd yn ol, gofynnwyd imi wneud printiau a chynfasau o Gastell Craig y Nos.”

“Yn olaf, ar ol blynyddoedd o wneud swyddi diflas nad oedden nhw’n fy ysgogi o gwbl, mae fy mywyd o’r diwedd wedi disgyn i’w le.”

Er mwyn gweld rhagor o ffotograffau Tony, ewch i: www.tonybateyphotography.smugmug.com

Te i Ddau o’r Dwyrain Pell ** **

Beth am baned? Roedd Elizabeth a Barry Chantler o’r Fenni’n awyddus i gael paned o de go iawn, ac felly mi aethon nhw’r holl ffordd i Falaysia i’w nol. Dechreuodd y ddau ffoli ar de pan oedden nhw’n teithio o gwmpas Asia ar eu gwyliau.

Bellach, diolch i gymorth Lwfans Menter Newydd y Llywodraeth, mae’r Chantlers wedi lansio busnes newydd i ddod a’r dail te rhydd gorau i dref y Fenni.

Cafodd Elizabeth a Barry gymorth i ddechrau eu busnes gan gynllun y Lwfans Menter Newydd sy’n cael ei ddarparu gan y darparwr gwasanaethau cyhoeddus A4e yng Nghymru.

“Pan ddaethon ni adre ar ol teithio, roedden ni’n ddi-waith ac yn teimlo nad oedd cyfeiriad i’n bywyd o gwbl. Roedden ni wedi’n cyfareddu gan y te y cawson ni ei flasu yn Asia a dyma ni’n penderfynu, gyda chymorth y Lwfans Menter Newydd, y bydden ni’n lansio’n busnes ni’n hunain, ‘Chantler Teas’,” meddmeddai Elizabeth.

“Drwy’r Lwfans Menter Newydd, fe lwyddon ni i gael benthyciad er mwyn prynu car i deithio i’r marchnadoedd. Cyn hyn, roedden ni’n gwbl gaeth i’r Fenni a dim ond hyn a hyn o de y gall pobl ei yfed yn ein tref ni.”

Fe’i lansiwyd ym mis Gorffennaf 2011 ac mae’r cynllun yn cynnig cyngor ymarferol a chymorth ariannol i gyw entrepreneuriaid i’w helpu i fentro i hunangyflogaeth gynaliadwy.

Un o blith nifer o gynlluniau Cael Prydain i Weithio yw’r Lwfans Menter Newydd a’u nod yw brwydro yn erbyn tlodi, cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed, a helpu pobl i chwalu cylch dibyniaeth ar fudd-daliadau.

Dywedodd Elizabeth: “Llwyddodd Jenna Blake, ein cynghorydd A4e i dawelu ein meddwl a’n helpu ni i gael trefn ar bopeth.”

“Mae gynnon ni nifer o gontractau erbyn hyn ac felly mae’r busnes yn dechrau cael ei draed dano’n gyflym.” Rydym yn gobeithio y byddwn ni’n sefyll ar ein traed ein hunain cyn bo hir. Wrth weithio gyda’r Lwfans Menter Newydd, fe ddysgon ni fynd gan bwyll a rhoi’r tegell ar y tan.”

Cyhoeddwyd ar 17 October 2012