Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n mynd ar ymweliad deuddydd â’r Alban

Heddiw (22 Mawrth 2012), y sectorau busnes ac ynni oedd ffocws ymweliad deuddydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a’r Alban fel gwestai…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (22 Mawrth 2012), y sectorau busnes ac ynni oedd ffocws ymweliad deuddydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a’r Alban fel gwestai i Swyddfa’r Alban.

Roedd Gweinidog yn Swyddfa’r Alban, David Mundell, yn cadw cwmni i Mrs Gillan ar ymweliad a Burntisland Fabrications Ltd. (BiFab) - cwmni o Fife sy’n cynhyrchu defnyddiau allweddol ar gyfer y diwydiannau olew, nwy ac ynni adnewyddadwy yn y mor.

Y cwmni hwn sydd a’r dasg o gynllunio ac adeiladu strwythurau sylfaen dwy is-orsaf i RWE npower renewables, ar gyfer Fferm Wynt Gwynt y Mor oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

Yna teithiodd Mrs Gillan a’r Gweinidog i Glasgow i gyfarfod ag uwch swyddogion UKTi ac uwch gynrychiolwyr Scottish Development International (SDI) er mwyn trafod sut i ddenu mwy o fuddsoddiad o’r tu allan i Gymru.

Yna ymgasglodd cynrychiolwyr o sector ynni adnewyddadwy’r Alban i gyfarfod ag Ysgrifennydd Cymru ar gyfer trafodaeth ynghylch sut mae’r sector yn gweithredu’n llwyddiannus yn yr Alban.

Wedyn, aeth Mrs Gillan gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Michael Moore, ar ymweliad a CB Technology yn Livingstone, er mwyn tynnu sylw at y gostyngiad yng nghyfradd y dreth gorfforaeth a’r Cynllun Gwarant Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddoe.

Mae CB Technology yn wneuthurwr electroneg sydd wedi ehangu ei eiddo yn ddiweddar o ganlyniad i gefnogaeth gan RBS ac mae’n ehangu i farchnadoedd rhyngwladol.  

Yn dilyn ei hymweliadau, dywedodd Mrs Gillan:

“Nod Llywodraeth y DU yw gwneud Prydain y lle mwyaf atyniadol i fuddsoddi mewn ynni ac roedd gen i ddiddordeb mewn gweld y camau arwyddocaol y mae’r Alban yn eu cymryd yn y sector hwn yn ystod fy nghyfarfodydd heddiw.

“Yng Nghymru, mae ein cryfderau ni yn y gorffennol a llawer o’n hanes ni’n seiliedig ar ynni ac rydw i’n credu’n gryf bod Cymru mewn lleoliad perffaith o hyd i groesawu buddsoddiadau o’r tu allan o’r sector ynni adnewyddadwy.

“Yn wir, mae gennym ni lawer iawn i fod yn falch ohono eisoes: mae datblygiadau gwynt newydd yn y mor fel North Hoyle, Gwastadeddau’r Rhyl a chynllun arfaethedig Gwynt y Mor eisoes yn dangos ein potensial ni, ond rydw i eisiau gwneud yn siŵr - fel yr amlinellwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig - bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio’n effeithiol er mwyn sicrhau cymaint o gyfleoedd ag y bo modd i ddenu buddsoddiadau o’r tu allan i Gymru, a gwella rhagolygon tymor hir economi Cymru.”

Dywedodd Mr Moore:

“Rydw i’n croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gynnes iawn i’r Alban. Mae ei hymweliad yn tanlinellu’r cyswllt sy’n uno’r DU gyda’i gilydd, boed drwy gyflwyno technoleg ar gyfer y diwydiant adnewyddadwy gan ddefnyddio ein sgiliau a’n blaengaredd ni ar y cyd neu drwy ddenu busnesau i fuddsoddi.  Rydym ni wedi gweld hwb sylweddol i fusnesau yn y Gyllideb ac roedd ein hymweliad a CB Technology yn West Lothian yn gyfle i dynnu sylw at y cymorth pellach fydd cwmniau’n ei gael drwy gyfrwng y Cynllun Gwarantu Benthyciad Cenedlaethol.

“Mae ein cyhoeddiadau ynghylch gostyngiad pellach mewn treth gorfforaeth, cefnogaeth i’r diwydiannau gemau fideo ac olew a nwy ac arian ychwanegol ar gyfer parthau menter sy’n creu swyddi yn Dundee, Irvine a Nigg yn golygu y bydd y Gyllideb hon o fudd i fusnesau yn yr Alban ac yn helpu i greu’r swyddi y mae arnom eu hangen.”
Dywedodd cyfarwyddwr rheoli RWE npower renewables, Julia Lynch Williams: “Mae ymweliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Alban yn gyfle rhagorol i adeiladu ar fomentwm datganiad ynni’r wythnos ddiwethaf, lle gwelwyd Llywodraeth Cymru’n cydnabod yn glir bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a’r diwydiant ynni i ddyfodol economaidd Cymru.

“Yn cael ei gynnal wythnos yn ddiweddarach yn unig, mae’r ymweliad hwn yn dyst i’r brys a’r brwdfrydedd ar bob lefel yn y sbectrwm gwleidyddol i elwa o’r ysbryd hwnnw, i ddeall yr arferion da sydd ar waith eisoes yn yr Alban ac i wneud y gorau o botensial y diwydiant ynni adnewyddadwy ar ran economi Cymru.

“Mae Fferm Wynt Gwynt y Mor eisoes wedi galluogi i fwy na £200 miliwn gael ei fuddsoddi yng nghadwyn gyflenwi ehangach y DU, gan gynnwys BiFab. Edrychwn ymlaen at gael gwybod am unrhyw fentrau a chamau gweithredu a roddir ar waith o ganlyniad i’r ymweliad hwn, er mwyn helpu i ddatgloi potensial y diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru.”

Fore dydd Gwener, bydd Mrs Gillan yn mynd o amgylch safle GE Caledonian Ltd yn Prestwick. Yma bydd yn cyfarfod a’r tim rheoli i drafod y cynlluniau ar gyfer y sefydliad gwasanaethau hedfan yn y dyfodol. Mae gan y sefydliad hwn safle mawr yn Nantgarw yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2012