Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Potensial economaidd trydaneiddio’r lein rhwng Wrecsam a Bidston yn hollbwysig

Partneriaid allweddol yn cyfarfod i drafod yr achos economaidd dros trydaneiddio rheilffordd Wrecsam i Bidston.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wrexham-Bidston electrification

Wrexham-Bidston electrification

Heddiw (22 Awst), bu David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, unwaith eto yn pwysleisio ei uchelgais i wella’r seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, wrth i grŵp o randdeiliaid allweddol ymgynnull i drafod yr achos busnes dros drydaneiddio’r lein rhwng Wrecsam a Bidston.

Croesawodd Mr Jones aelodau o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr o Bartneriaeth Menter Leol Lerpwl ac Ardal Fenter Wirral Waters, i’r cyfarfod o amgylch y bwrdd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, i gael eu barn ynghylch sut gallai gwella’r cysylltiadau rheilffordd rhwng ardaloedd menter yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ddwyn budd i’r economi leol.

Bydd y wybodaeth a roddwyd gan gynrychiolwyr awdurdod lleol a’r gymuned fusnes o’r ddwy ochr i’r ffin yn cael ei defnyddio i gryfhau mwy byth ar yr achos economaidd dros drydaneiddio’r lein rhwng Wrecsam a Bidston.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Llywodraeth yn credu’n gryf bod gwella seilwaith Prydain yn hollbwysig i sicrhau twf economaidd cytbwys a hirdymor ledled y wlad.

Er y gwelliannau anferthol rydym ni wedi ymrwymo iddynt yn barod o ran trydaneiddio llinellau de Cymru a’r Cymoedd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir nad hyn yw diwedd fy uchelgais i wella’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Yng ngogledd Cymru, mae potensial economaidd trydaneiddio yn hollbwysig. Gyda’i gilydd, mae Glannau Dyfrdwy a Wrecsam yn ffurfio un o ardaloedd diwydiannol pwysicaf Ewrop. Er y ffiniau, mae gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn ffurfio un endid economaidd. Mae’r ffaith bod Glannau Dyfrdwy a Wirral Waters wedi cael eu dynodi’n ardaloedd menter yn golygu bod gwella’r cyswllt rhwng y ddwy ardal hyn yn bwysicach nag erioed.

Mae rhwydwaith cyffrous Metrolink Manceinion a phrosiect Midland Metro yn enghreifftiau amlwg o sut gall gwell cysylltiadau seilwaith sicrhau manteision pellgyrhaeddol, gan greu swyddi ac allbwn economaidd. Yn sicr, gallai trydaneiddio’r lein rhwng Wrecsam a Bidston fod yn fuddsoddiad allweddol i helpu i symbylu buddsoddiad pellach yn yr ardaloedd menter ar y ddwy ochr i’r ffin.

Mae’n bleser gennyf ddweud bod gwaith ar yr achos busnes i drydaneiddio rhagor o linellau yn bendant ar y gweill. Bydd y safbwyntiau a’r sylwadau a gefais heddiw yn helpu i atgyfnerthu’r achos hwnnw wrth i ni ddal ati i roi’r darnau at ei gilydd i wneud Cymru yn wlad hwylus a mwy deniadol i fuddsoddi ynddi.

Mae’n debygol y bydd Cymru yn elwa bron i £2 biliwn, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, o raglen Llywodraeth y DU i foderneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd.

Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd gan bron i ddwy ran o dair o boblogaeth Cymru fynediad at wasanaethau rheilffyrdd sy’n gyflymach, yn lanach ac yn fwy gwyrdd.

Delwedd drwy garedigrwydd freefotouk ar Flickr.

Cyhoeddwyd ar 22 August 2013