Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn trafod Brexit gyda Phanel Arbenigwyr yr UE

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn cyfarfod â’i Banel Arbenigwyr yng Nghaerdydd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit.

Bydd cynrychiolwyr o fusnesau, awdurdodau lleol, y byd amaeth a’r trydydd sector yng Nghymru yn dod at ei gilydd i drafod eu blaenoriaethau ar gyfer Brexit yn ogystal â’u prif bryderon. Wrth i’r negodi fynd rhagddo, mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, wedi parhau yn ymrwymedig i gael y sgyrsiau hollbwysig hyn, gan sicrhau bod ei drafodaethau yn Whitehall yn cael eu llywio gan safbwyntiau pob sector o economi Cymru.

Bydd y cyfarfod yn adeiladu ar sgyrsiau blaenorol sydd wedi canolbwyntio ar sut y dylid defnyddio pwerau blaenorol yr UE i helpu Cymru i ffynnu mewn byd ar ôl Brexit. Gan ganolbwyntio ar ddyfodol ffyniant Cymru, mae’r Papur Gwyn ar berthynas y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, parodrwydd gweithredol a hysbysiadau technegol ar frig yr agenda.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Er mwyn cael Brexit trefnus a didrafferth sy’n fanteisiol i Gymru, mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gael sgyrsiau agored a gonest â’r arbenigwyr ynghylch y pryderon a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â Brexit yn eu priod sectorau.

Mae nifer o ddatblygiadau pwysig wedi bod ers i’r Panel Arbenigwyr gyfarfod ddiwethaf. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn ar y Cytundeb Ymadael, y papur ar berthynas y DU â’r UE yn y dyfodol a’r ddau swp cyntaf o hysbysiadau technegol, yn rhoi gwybod i fusnesau a dinasyddion sut y dylent fwrw ati yn yr achos annhebygol na fydd cytundeb Brexit. Mae’r negodi bellach ar gam tyngedfennol, ac mae’n bwysicach nag erioed i ni ymgysylltu â’r partneriaid allweddol hyn i sicrhau bod pob rhanbarth yn y DU a phob sector yn cael llais sydd wrth wraidd y llywodraeth.

Gyda’r lefelau cyflogaeth ar eu huchaf erioed a’r economi’n mynd o nerth i nerth, mae’n amlwg ein bod ni’n parhau i ddenu buddsoddiad yng Nghymru. Ond i sicrhau nad yw’r hyder hwn yn ein gallu ni yn mynd yn angof wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, fy ngwaith i yw rhoi sicrwydd i’r rheini sy’n sbarduno economi Cymru.

Cyhoeddwyd ar 17 September 2018