Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn “hynod siomedig” ei bod wedi gorfod canslo trafodaeth am Drefniadau Etholiadol ar gyfer Cymru yn y dyfodol

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi mynegi ei siom gyda safiad rhwystrol yr Wrthblaid Swyddogol ynghylch yr Uwch Bwyllgor Cymreig…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi mynegi ei siom gyda safiad rhwystrol yr Wrthblaid Swyddogol ynghylch yr Uwch Bwyllgor Cymreig arfaethedig a oedd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Llun 2 Gorffennaf.Roedd yr Uwch Bwyllgor Cymreig i fod i gyfarfod am 11.30am i drafod yr ymgynghoriad a lansiwyd gan Swyddfa Cymru yn ddiweddar ynghylch Trefniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Dyfodol.

O ganlyniad i wrthwynebiad i’r Uwch Bwyllgor Cymreig gael ei drefnu ar fore dydd Llun, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth Dŷ’r Cyffredin yn ystod Cwestiynau Cymru ei bod yn bwriadu canslo’r drafodaeth.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’r drafodaeth am yr ymgynghoriad a lansiais ym mis Mai, sy’n edrych ar Drefniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Dyfodol, yn un pwysig.Roeddwn yn edrych ymlaen at drafod y materion yn y Papur Gwyrdd hwn, felly rwy’n siomedig iawn bod yr wrthblaid swyddogol wedi dewis troi at wleidyddiaeth bleidiol.Dydw i ddim yn meddwl y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cael trafferth dod i’r gwaith am 11.30 am ar fore dydd Llun.

“Felly oherwydd safiad anghyffredin Ysgrifennydd Cymru yr Wrthblaid, rwy’n teimlo nad oes unrhyw ddewis arall heblaw canslo’r drafodaeth yma. Mae’n siomedig bod yr Wrthblaid wedi cael cyfle i drafod y mater pwysig hwn i Gymru, a’u bod wedi dewis peidio a manteisio ar y cyfle hwnnw.

“Serch hynny, gan fod yr ymgynghoriad yn agored i bawb yng Nghymru, rwy’n eu hannog i fynegi eu barn drwy fynd i wefan Swyddfa Cymru a chymryd rhan.”

NODIADAU I OLYGYDDION:

  1. I gael rhagor o wybodaeth am y Papurau Gwyrdd ynghylch Trefniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol, ewch i:-   http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/dweud-eich-dweud/

  2. Daeth yr Uwch Bwyllgor Cymreig ynghyd i drafod y Rhaglen Ddeddfwriaethol a’r Datganiad cyn y Gyllideb am 10:30am ar ddydd Llun 11 Rhagfyr 2000.

  3. Cyhoeddwyd Papur Gwyn, Trefn Lywodraethu Well i Gymru, ym mis Mehefin 2005. Ni chafwyd trafodaeth yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig nac ar Lawr y Tŷ.

  4. Trafodwyd y Papur Gwyrdd hwn yn yr Uwch Bwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ddydd Llun 18 Mehefin 2012.

Cyhoeddwyd ar 27 June 2012