Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Gall gweithio ar draws ffiniau fod yn gatalydd i ffyniant Cymru yn y dyfodol”

Alun Cairns yn gosod her coridor twf yn nigwyddiad Clwb Brecwast Caerdydd

Severn Crossing

Severn Crossing

  • Uwchgynhadledd Twf Hafren 1af Llywodraeth y DU i gael ei chynnal yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar 22 Ionawr 2018.

  • Alun Cairns yn gwneud cais clir am i fusnesau Cymru elwa ar gyfleoedd ar draws ffiniau yn nigwyddiad Clwb Brecwast Caerdydd.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn herio diwydiant ar y ddwy ochr i ffin Cymru a Lloegr i “feddwl ar raddfa fawr er mwyn llunio a thrawsnewid ein dyfodol economaidd” pan fydd yn annerch cynulleidfa o arweinwyr busnes yng Nghaerdydd fore heddiw (dydd Gwener 15 Rhagfyr).

Wrth siarad yn nigwyddiad Clwb Brecwast Caerdydd, bydd Mr Cairns yn dweud “nid yw cyfleoedd economaidd yn stopio wrth ffiniau gwleidyddol a gweinyddol” ac y bydd “datblygiad coridorau twf yn lledaenu ffyniant ledled Cymru ac yn galluogi’r genedl i gystadlu ar lwyfan byd-eang”.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi y bydd yn cynnal yr uwchgynhadledd fusnes drawsffiniol gyntaf ar gyfer Twf Hafren ar 22 Ionawr yn y Celtic Manor. Bydd yn galw ar bartneriaid a busnesau lleol o bob cwr o Dde Orllewin Lloegr a De Ddwyrain Cymru i ddod at ei gilydd i edrych ar sut gall y cyswllt rhwng y ddwy economi gael ei gryfhau yn dilyn cyhoeddi diddymu Tollau Hafren.

Daw’r anerchiad yn dilyn lansiad Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU fis diwethaf, a oedd yn cynnwys y nod o ddatblygu coridorau twf ar draws ffin Cymru a Lloegr i ledaenu ffyniant a galluogi Cymru i gystadlu ar lwyfan byd-eang.

Bydd Mr Cairns yn dweud y bydd y coridorau hyn, ynghyd â Bargeinion Dinesig Caerdydd ac Abertawe a’r Bargeinion Twf ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn “flociau adeiladu sydd eu hangen er mwyn i fusnesau a phobl allu trawsnewid eu cymunedau lleol, eu heconomi a’u bywydau”.

Yn ystod ei araith, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at “dreftadaeth economaidd nodedig” Caerdydd a’i statws fel “peiriant pwerus o dwf economaidd” ar gyfer y DU gyfan.

Bydd Mr Cairns yn dweud:

Mae Caerdydd yn cysylltu ei hun â gweddill y wlad yn fwy nag erioed ac mae cael pwerdy o ddiwydiant, arloesi a sgiliau yma yn ein prifddinas ni’n fuddiol i Gymru gyfan ac i weddill y DU.

I gyflawni ei holl botensial, rhaid i Gaerdydd fod yn cystadlu yn uwch gynghrair y dinasoedd Ewropeaidd. O’n prifysgolion nodedig ni i’r gwelliannau sy’n cael eu gwneud i’w seilwaith a’i henw da fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau mawr, mae gan y ddinas dalent, cyfleoedd a phenderfyniad i gystadlu yn erbyn y goreuon yn Ewrop, os nad y byd.

Bydd Uwchgynhadledd Twf Hafren yn dod â phanel o siaradwyr o fusnesau byd-eang blaenllaw, a sefydliadau addysg uwch, at ei gilydd o’r ddwy ochr i’r ffin i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael drwy gydweithredu’n agos.

Bydd y rhai sydd â diddordeb mewn mynychu Uwchgynhadledd Twf Hafren yn gallu cofrestru ar wefan Eventbrite. Bydd rhestr lawn o siaradwyr y panel yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

Cyhoeddwyd ar 15 December 2017