Ysgrifennydd Cymru yn llongyfarch Owen Smith AS ar gael ei benodi i Gabinet yr Wrthblaid
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi llongyfarch Owen Smith AS ar gael ei benodi i Gabinet yr Wrthblaid. Dywedodd Mrs Gillan…
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi llongyfarch Owen Smith AS ar gael ei benodi i Gabinet yr Wrthblaid.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Rwy’n llongyfarch Owen Smith ar gael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n adeiladol gydag ef er lles Cymru.
“Mae Cymru’n wynebu nifer o sialensiau, a’r ffordd orau i’w datrys yw gyda’n gilydd, fel yr oeddwn i’n ceisio ei wneud gyda’i ragflaenydd ac fel y byddaf yn dal i geisio ei wneud yn ein cysylltiadau a Llywodraeth Cymru.”