Datganiad i'r wasg

Sylwadau Ysgrifennydd Cymru ar benderfyniad y Comisiwn Etholiadol

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi nodi penderfyniad y Comisiwn Etholiadol i beidio a dynodi ymgyrchoedd Ie a Na swyddogol …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi nodi penderfyniad y Comisiwn Etholiadol i beidio a dynodi ymgyrchoedd Ie a Na swyddogol ar gyfer y refferendwm a gynhelir cyn hir ynghylch a ddylid cynyddu pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Y Comisiwn Etholiadol sydd i benderfynu ar hyn. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, fel y cyflwynwyd gan y Llywodraeth flaenorol, yn nodi naill ai fod cyfranogwr cofrestredig yn cael ei ddynodi’n gorff arweiniol ar gyfer pob canlyniad y refferendwm neu fod dim cyfranogwyr yn cael eu dynodi.

“Fel y nodwyd yn y Ddeddf, bydd y Comisiwn Etholiadol yn cynnal ymgyrch yn awr a fydd yn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am y refferendwm er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i bleidleisio, a sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth wrthrychol a ddiduedd. Rwyf ar ddeall ei fod hefyd yn ceisio barn gan ymgyrchwyr cofrestredig ynghylch pa gamau pellach y gall fod angen iddo’u cymryd yn dilyn penderfyniad heddiw.”

Cyhoeddwyd ar 26 January 2011